Chynhadledd Partneriaid Blynyddoedd Cynnar BookTrust Cymru 2022/2023
Mae Darllen yn Bwysig – Cysylltu Teuluoedd Sy’n Byw Mewn Tlodi â Grym Trawsnewidiol Darllen Er Pleser
Darlunio gan Fiona Lumbers
Daeth Cynhadledd Partneriaid Blynyddoedd Cynnar BookTrust Cymru eleni â lleisiau proffil uchel ynghyd, gan gynnwys awduron a darlunwyr llyfrau plant, sefydliadau ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy’n cefnogi plant a theuluoedd.
Gyda’n gilydd, fe wnaethon ni archwilio pam fod cael mynediad i lyfrau a darllen er pleser mor bwysig i bob teulu, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn tlodi.
Digwyddodd y gynhadledd fel cyfres o weminarau ar lein dros 2 diwrnod. Roedd y gweminarau hyn ar ffurf trafodaeth banel a 2 sesiwn rhannu ymarfer, gyda chyfraniadau a sylwadau gan:
• Connor Allen, Laureate Plant Cymru 2021 – 2023
• Diana Gerald, Prif Weithredwr BookTrust
• Katie Hadley, Little Lounge
• Susannah Hill, Aura Cymru
• Paul Howard, Cymrawd Ysgrifennu Plant Gogledd Iwerddon 2021 - 2023
• Nick Sharratt, Awdur a Darlunydd i blant, ac Awdur Preswyl BookTrust
• Nadia Shireen, Awdur a Darlunydd i blant
• Emmajayne Skinner, Boomerang Caerdydd
• Bethan Webber, Prif Weithredwr HomeStart Cymru
• BookTrust, elusen ddarllen plant fwyaf y DU
• Cyfranwyr eraill i’w cadarnhau
Mynnwch wybodaeth a chael eich ysbrydoli ar gyfer grym trawsnewidiol darllen er pleser.