Ynglŷn â’r pecyn Adrodd Straeon a’r pecyn i Deuluoedd – beth sydd ynddynt a sut y gallech chi eu defnyddio.
Lawrlwythwch adnoddau a chael rhestrau llyfrau, mwy o weithgareddau a gwybodaeth am lyfrgelloedd i deuluoedd.
Awgrymiadau Michael Rosen ar gyfer Adrodd Straeon
Mae’r awdur gwych Michael Rosen, a ysgrifennodd We're Going on a Bear Hunt (‘Dyn Ni yn Mynd i Hela Arth), yn rhannu ei awgrymiadau a’i driciau i ddod â straeon yn fyw i blant, gan gynnwys:
- Cadw sylw plant
- Defnyddio’ch llais i ddod â chymeriadau’n fyw
- Defnyddio pypedau i helpu i adrodd y stori
Dod â straeon yn fyw i deuluoedd
Fideos difyr wedi’u hanimeiddio ar fanteision rhannu straeon, ynghyd ag awgrymiadau syml ac ymarferol ar gyfer gwneud llyfrau a straeon yn rhan o fywyd bob dydd.
Dechrau Da i Blant Bach a Dechrau Da Meithrin: Atebion i’ch cwestiynau
-
Beth yw’r gynulleidfa darged ar gyfer yr adnoddau hyn?
Ein cynulleidfa darged ar gyfer yr adnoddau hyn yw teuluoedd incwm is â phlant 1-4 oed, i’w cynorthwyo i wneud darllen ar y cyd yn rhan reolaidd o’u bywydau. Dyluniwyd y cynnig mewn cydweithrediad â phartneriaid a theuluoedd o’n grwpiau targed.
Mae BookTrust Cymru wedi ymrwymo i gynnig cymorth wedi’i dargedu mwy i deuluoedd o gefndiroedd incwm is gan ein bod yn gwybod y gallai’r plant hyn gael y budd mwyaf o ddarllen yn rheolaidd a darllen o ddewis. Rydym yn gweithio gyda rhwydwaith eang o bartneriaid cyflawni i gyrraedd teuluoedd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ogystal â’r rhai sy’n byw mewn pocedi o amddifadedd mewn ardaloedd mwy llewyrchus.
Mae partneriaid wedi defnyddio llawer o wahanol ddulliau i ddod o hyd i’r llwybrau gorau at deuluoedd; yn gyffredinol, gellid disgrifio’r rhain fel:
- Daearyddol – lle mae partneriaid wedi nodi lleoliadau neu lwybrau sy’n gweithio mewn ardaloedd o amddifadedd uwch
A/neu
- Nodi llwybrau neu sefydliadau sydd, drwy eu natur, yn cyrraedd teuluoedd yn ein grwpiau targed.
-
Beth yw nod y rhaglen?
Nod y rhaglen Dechrau Da i Blant Bach a Dechrau Da Meithrin yw:
- Darparu’r dulliau a’r wybodaeth i deuluoedd targed sydd eu hangen arnynt i deimlo ysbrydoliaeth a chyffro am rannu straeon gyda’i gilydd
- Darparu’r arfau a’r wybodaeth i’n partneriaeth i gefnogi eu gwaith gyda theuluoedd
- Cyfrannu at ddysgu pa gymorth sydd ei angen ar deuluoedd targed i rannu straeon gyda’i gilydd yn y blynyddoedd cynnar – a ble, pryd a sut y gallai BookTrust Cymru a phartneriaid ddarparu’r cymorth hwn orau
- Dod o hyd i lwybrau llwyddiannus i gyrraedd teuluoedd
- Hysbysu sut y gallwn gynorthwyo gwaith ein partneriaid gyda theuluoedd yn well
-
Sut allaf i wneud y defnydd gorau o’r adnoddau?
Pecyn Adrodd Straeon
Pecyn cymorth a ddatblygwyd i gynorthwyo ein partneriaid i rannu straeon gyda theuluoedd yw’r pecyn Adrodd Straeon. Gellir ei ddefnyddio mewn lleoliadau gyda theuluoedd yn rhan o sesiynau adrodd straeon grŵp, neu gyda theuluoedd unigol gartref.
Gallwch rannu’r llyfrau, defnyddio propiau i helpu i ddod â nhw’n fyw, ac archwilio’r cardiau gweithgareddau i gael awgrymiadau pellach o ran sut i ymestyn y straeon.
Helpwch deuluoedd i weld sut y gallant ailadrodd y profiad adrodd straeon gartref trwy nodi’r hyn yr ydych yn ei wneud, magu eu hyder, a phwysleisio nad oes angen iddo fod yn berffaith i’w plentyn ei fwynhau!
Plant Bach
Dyluniwyd pecynnau Dechrau Da i Blant Bach ar gyfer plant 1-2 oed. Rydym yn eich annog i ystyried hwn fel argymhelliad yn unig. Rydym yn gwybod bod pob plentyn yn wahanol, ac oherwydd eich bod yn gweithio’n agos gyda theuluoedd, chi sydd yn y sefyllfa orau i wybod pryd i roi pecynnau i gyfateb i’r cam y mae plentyn wedi ei gyrraedd. Wrth roi’r pecynnau, gallwch dynnu sylw at rai o’r negeseuon sydd wedi’u hargraffu ar amlen y pecyn, fel sut y gallant gael gafael ar weithgareddau pellach ar ein Hyb Teuluoedd neu sut y gallant ymuno â’u llyfrgell leol.
Os oes gennych amser, gallech hyd yn oed geisio rhoi esiampl i deuluoedd o sut y gallwch ddefnyddio’r llyfrau a’r adnoddau gyda phlentyn – gan ddangos, er enghraifft, sut all rhieni/gofalwyr ddefnyddio’r pyped bys fel cymeriad fel cyfrwng i adrodd y stori neu ganu rhigwm.
Meithrin
Dyluniwyd pecynnau Dechrau Da Meithrin ar gyfer plant 3-4 oed. Rydym yn eich annog i ystyried hwn fel argymhelliad yn unig. Rydym yn gwybod bod pob plentyn yn wahanol, ac oherwydd eich bod yn gweithio’n agos gyda theuluoedd, chi sydd yn y sefyllfa orau i wybod pryd i roi pecynnau i gyfateb i’r cam y mae plentyn wedi ei gyrraedd. Wrth roi’r pecynnau, gallwch dynnu sylw at rai o’r negeseuon sydd wedi’u hargraffu ar amlen y pecyn, fel sut y gallant gael gafael ar weithgareddau pellach ar ein Hyb Teuluoedd neu sut y gallant ymuno â’u llyfrgell leol.
Os oes gennych amser, gallech hyd yn oed geisio rhoi esiampl i deuluoedd o sut y gallwch ddefnyddio’r llyfrau a’r adnoddau gyda phlentyn – gan ddangos, er enghraifft, sut y gellir defnyddio Y Deinosor Bach Yma i helpu plant i ddatblygu eu sgiliau rhifedd trwy gyfrif y deinosoriaid y gallant eu gweld.
-
Pa adnoddau, ac eithrio’r pecynnau a roddir, sydd ar gael i deuluoedd?
Ochr yn ochr â’r pecynnau ffisegol, rydym hefyd wedi creu Hyb Teuluoedd digidol lle gall teuluoedd ddod o hyd i weithgareddau pellach, awgrymiadau ar gyfer llyfrau a chyngor ar ddarllen gyda’u plentyn. Gall teuluoedd gael mynediad at yr Hyb drwy’r cod QR ar gefn eu pecyn, neu drwy fynd i booktrust.org.uk/cy-gb/familyhubwales.
-
Pa ganiatâd sydd wedi cael ei roi gan gyhoeddwyr y llyfrau Dechrau Da i Blant Bach, Dechrau Da Meithrin ac Adrodd Straeon?
Mae cyhoeddwyr y llyfrau Dechrau Da i Blant Bach, Dechrau Da Meithrin ac Adrodd Straeon wedi rhoi caniatâd i awdurdodau lleol gynnal darlleniadau byw ac wedi’u recordio.
Dylid rhannu darlleniadau wedi’u recordio trwy grwpiau caeedig / nad ydynt ar gael yn gyhoeddus yn unig.
Sylwer: Os hoffech wybodaeth lawn ynglŷn â pha hyd y mae caniatâd yn ddilys, yr hyn a ganiateir a pha gredydau sy’n ofynnol, lawrlwythwch y ddogfen ganiatâd ddiweddaraf trwy glicio yma.
-
Sut mae’r rhaglen yn cysylltu â gwaith arall BookTrust?
Yng Nghymru
Dim ond un rhan o siwrnai ddarllen blynyddoedd cynnar BookTrust Cymru yw Dechrau Da i Blant Bach a Dechrau Da Meithrin.
Mae pob babi sy’n cael ei eni yng Nghymru yn derbyn pecyn Dechrau Da Babi gan ei Ymwelydd Iechyd, yn yr Adolygiad Iechyd Teuluol 6 mis fel rheol, ac yna pecyn Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar yn yr Adolygiad Iechyd Teuluol 27 mis. Mae’r ddau becyn yn cynnwys llyfr ac adnoddau dwyieithog o ansawdd uchel, sydd â’r bwriad o gynorthwyo ac annog teuluoedd i ddarllen gyda’u plentyn o adeg mor gynnar â phosibl.
Mae’r cynnig Dechrau Da hefyd yn cynnwys llyfrau dwy-iaith i deuluoedd lle mae Cymraeg neu Saesneg yn iaith ychwanegol. Rhoddir y llyfrau hyn yn ogystal â’r llyfrau yn y pecynnau Dechrau Da Babi a Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar.
Mae Pori Drwy Stori yn rhaglen ddwyieithog gyffrous ar gyfer plant oed Meithrin a Dosbarth Derbyn yng Nghymru. Mae plant sy’n cymryd rhan yn derbyn llyfrau, rhigymau, gweithgareddau a gemau sy’n cefnogi eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a llafaredd yn y Cyfnod Sylfaen. Caiff ysgolion a meithrinfeydd hefyd eu cynorthwyo gyda hyfforddiant ac adnoddau i ysbrydoli ymgysylltu creadigol â theuluoedd.
Rydym hefyd yn cynnig Amser Stori BookTrust Cymru, sydd â’r nod o ymgysylltu â theuluoedd â phlant 0-5 oed, yn enwedig y rhai ar incwm is, yn eu llyfrgell leol, ac yn eu hannog i archwilio amrywiaeth o lyfrau a straeon. Yn rhan o’r cynnig, gall teuluoedd fwynhau gweithgareddau am ddim, sesiynau Amser Stori a lle croesawgar i gael hwyl gyda’i gilydd – yn ogystal â chael cynnig y cyfle i bleidleisio dros eu hoff stori.
Bob mis Chwefror, gwahoddir lleoliadau blynyddoedd cynnar a theuluoedd i ymuno â ni ar gyfer, Amser Rhigwm Mawr Cymru ein dathliad blynyddol o rannu rhigymau, cerddi a chaneuon. Hwyl yn odli? Beth amdani?
I gael gwybod mwy am sut i roi’r pecynnau hyn, ac am wybodaeth am ein holl gynigion blynyddoedd cynnar, ewch i booktrust.org.uk/cy-gb/storytellerwales.
Dim ond un rhan o siwrnai ddarllen blynyddoedd cynnar BookTrust yw Dechrau Da i Blant Bach a Dechrau Da Meithrin (a elwir yn Pre-Schooler yn Lloegr).
Mae pob babi sy’n cael ei eni yn Lloegr yn derbyn pecyn Bookstart Baby, a roddir gan Ymwelwyr Iechyd, Cofrestryddion a gweithwyr blynyddoedd cynnar proffesiynol eraill yn ystod y flwyddyn gyntaf o fywyd babi. Pecyn llyfrau ag adnoddau am ddim yw hwn, y bwriedir iddo gynorthwyo ac annog teuluoedd i ddarllen gyda’u plentyn mor gynnar â phosibl.
Rydym hefyd yn cynnig BookTrust Storytime, sydd â’r nod o ymgysylltu â theuluoedd â phlant 0-5 oed – yn enwedig y rhai ar incwm is – yn eu llyfrgell leol, ac yn eu hannog i archwilio amrywiaeth o lyfrau a straeon. Yn rhan o’r cynnig, gall teuluoedd fwynhau gweithgareddau am ddim, sesiynau Amser Stori a lle croesawgar i gael hwyl gyda’i gilydd – yn ogystal â chael cynnig y cyfle i bleidleisio dros eu hoff stori ar restr fer Gwobr Amser Stori BookTrust.
Rydym hefyd yn cynnig pecynnau AAA a llyfrau ac adnoddau dwy-iaith am ddim i blant 0-5 oed, i gefnogi mynediad at lyfrau a’r cyfle i fwynhau darllen.
I gael gwybod mwy am sut i roi’r pecynnau hyn, ac am wybodaeth am ein holl gynigion blynyddoedd cynnar, ewch i booktrust.org.uk/storyteller.
Yng Ngogledd Iwerddon
Dim ond un rhan o siwrnai ddarllen blynyddoedd cynnar BookTrust yw Dechrau Da i Blant Bach a Dechrau Da Meithrin (a elwir yn Pre-Schooler yng Ngogledd Iwerddon).
Mae pob babi sy’n cael ei eni yng Ngogledd Iwerddon yn derbyn pecyn Dechrau Da Babi gan ei Ymwelydd Iechyd, ar adeg yr archwiliadau 12-14 wythnos neu 6-9 mis fel rheol. Pecyn am ddim yw hwn sy’n cynnwys llyfr ac adnoddau, y bwriedir iddo gynorthwyo ac annog teuluoedd i ddarllen gyda’u plentyn mor gynnar â phosibl, ac fe’i hariennir yn rhannol gan yr Adran Addysg.
Wrth i blant ddechrau’r ysgol, gall bywyd gartref brysuro a gall fod yn anodd cydbwyso gwaith cartref gyda darllen i fwynhau. Rydym yn gwybod bod darllen ar y cyd yn cael effaith gadarnhaol ar ddychymyg, iaith, a llesiant emosiynol plant. Bydd darllen ar y cyd yn rheolaidd fel teulu hefyd yn creu amser difyr a diogel i blant fynegi eu hunain. Ariennir ein pecynnau Time to Read, a roddir i bob disgybl Cynradd Un, gan yr Awdurdod Addysg, ac mae pob pecyn yn cynnwys cyngor da ar gyfer rhannu straeon fel teulu, yn ogystal â rhai deunyddiau creadigol i alluogi plant i archwilio’r stori y tu hwnt i’r llyfr.
I gael gwybod mwy am sut i roi’r pecynnau hyn, ac am wybodaeth am ein holl gynigion blynyddoedd cynnar, ewch i booktrust.org.uk/storyteller.
-
Sut mae’r rhaglen yn cael ei gwerthuso?
Gwerthuswyd cyfnod peilot y rhaglen (Mehefin 2022 – Mehefin 2024) drwy arolwg o rieni a gofalwyr, arolwg o bartneriaid, ac ymweliadau â sawl lleoliad i arsylwi’r adnoddau ar waith ac i siarad â theuluoedd a phartneriaid am eu profiadau o’r rhaglen.
Fe wnaeth y gwerthusiad fesur llwyddiant y cyfnod peilot yn erbyn sawl dangosydd effaith, gan ganfod bod y cynnig yn gweithio i danio brwdfrydedd teuluoedd a’u gwybodaeth am fanteision darllen, a gwahanol ffyrdd o rannu llyfrau a straeon gyda’i gilydd, yn ogystal â’u cynorthwyo a’u hannog i ddarllen mwy o ganlyniad. Er enghraifft:
- Roedd teuluoedd incwm is yn fwy tebygol o ddysgu rhywbeth newydd am fanteision darllen (77%) na theuluoedd yn gyffredinol (67%), ac am wahanol ffyrdd o rannu straeon gyda’u plant (82%, o’i gymharu â 78% o deuluoedd yn gyffredinol).
- Dywedodd 77% o deuluoedd bod y cynnig wedi eu cymell i ddarllen a rhannu straeon mwy gyda’u plant. Roedd hyn yn arbennig o amlwg i deuluoedd incwm is (84%).
Gallwch ddarllen mwy am yr hyn a ganfuwyd gennym yn y cyfnod peilot yn ein hadroddiad cryno gwerthuso Blwyddyn Un.
Yn dilyn y cyfnod peilot, mae ein cynigion Dechrau Da i Blant Bach a Dechrau Da Meithrin bellach yn rhan graidd o siwrnai ddarllen blynyddoedd cynnar BookTrust Cymru. Byddwn yn parhau i gynnal arolygon i deuluoedd a phartneriaid gan ddefnyddio’r cynnig hwn i’w caniatáu i roi adborth gwerthfawr ar y gwahaniaeth y mae’n ei wneud, a sut y gellid ei wella.
-
Os oes gennyf ragor o ymholiadau neu gwestiynau, pwy allaf i gysylltu â nhw?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â thîm BookTrust Cymru: [email protected].