Amser Rhigwm Mawr Cymru
Amser Rhigwm Mawr Cymru yw ein dathliad blynyddol o rannu rhigymau, cerddi a chaneuon. Mae’n bwrlwm y rhigwm i bawb!
Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru yn ôl rhwng 2 – 6 Chwefror 2026, a byddem ni’n falch pe gallech chi ymuno.
Bydd miloedd o blant ledled Cymru’n cymryd rhan yr wythnos hon, gartref neu yn yr ysgol, y feithrinfa neu leoliad blynyddoedd cynnar arall. Ymysg lleoliadau eraill sy’n ymuno mae Elusennau Gofalwyr Plant, Canolfannau Plant, Llyfrgelloedd a mwy.
Gallwch ddod o hyd i’r holl rigymau a gweithgareddau newydd gwych, a grëwyd yn arbennig ar gyfer Amser Rhigwm Mawr Cymru 2026 isod.
Mwynhewch y rhigymu!
Darluniwr: Paul Nicholls
Rhigymau newydd ar gyfer 2026
-
Dewch i symud gyda Rhiannon Oliver a’r holl anifeiliaid yn y rhigwm dwyieithog hwyliog a bywiog hwn, ynghyd â thaflenni darlunio a gweithgaredd i’w hargraffu. Cofiwch am y fideo bonws hefyd!
-
Dewch i ddarganfod hudoliaeth cerddoriaeth a seiniau gyda Branwen Gwy yn y rhigwm newydd hyfryd o soniarus. Ymunwch yn yr hwyl gyda fideos rhigwm yn Gymraeg a Saesneg, ynghyd â gweithgareddau i’w hargraffu.
-
Ymunwch â Patricia Sumner ar gyfer picnic perffaith yn y rhigwm dwyieithog hwyliog a ysbrydolwyd gan deulu a bwyd, gyda gweithgareddau ryseitiau i’w hargraffu gan Daffodil Kitchen.
Cystadlaethau
-
Ennill gydag Graffeg!
30 Ionawr 2026
Gallwch ennill set o 6 llyfr anhygoel gan yr Awdur a Children’s Laureate Wales 2025–2027, Nicola Davies, a’r Darlunydd Abbie Cameron. Cyhoeddir yn Gymraeg a Saesneg gan Graffeg (addasiadau Cymraeg gan Anwen Pierce), bydd y llyfrau odli hyn sy’n rhoi sylw i anifeiliaid a natur yn dod â llawenydd i blant mawr a bach. Mae gennym 1 set o 6 llyfr Cymraeg neu Saesneg i’w rhoi.
-
Ennill gyda Firefly Press!
30 Ionawr 2026
Gallwch ennill set o 4 llyfr gwych gan yr awdur Alex Wharton a chopi o Ac Rwy’n Clywed Dreigiau i gyd gan Firefly Press. Yn llawn o farddoniaeth berffaith a chwareus, bydd y casgliad hwn yn dod â hwyl rhigymu i’r teulu oll. Mae gennym 1 set o 4 llyfr Saesneg ag 1 llyfr dwyieithog i’w rhoi.
Hyd yn oed mwy o odlau
Adnoddau odli
-
Mae’r gerdd ddwyieithog wych yn ddathliad o iaith, symud a natur. Ydych chi’n gallu symyd fel yr anifeiliaid yn y rhigwm?
-
Cyd-ganwch gyda’r adar a dysgu i adnabod eu cân yn Gymraeg a Saesneg yn y rhigwm hwyliog yma.
-
Cewch hwyl gyda geiriau ag iaith yn y gerdd ddwli hwyliog, ddwyieithog am sanau unigol, ac o ble y gallent ddod.
Mwynhewch gyda rhigymau a chaneuon
-
Rydym ni wedi dewis rhai o’n hoff rigymau Cymraeg a Saesneg y gallwch chi eu mwynhau gyda’ch gilydd unrhyw bryd, unrhyw le!
-
Dyma rai syniadau ynghylch sut y gallwch chi fwynhau rhannu rhigymau a chaneuon gyda babis a phlant bach.
Beth y mae’r arbenigwyr yn ei ddweud
-
Mae rhigymau a hwiangerddi’n nodwedd gyffredin mewn plentyndod. Bydd plant wir yn mwynhau’r rhythm a’r ailadrodd, wrth eu llafarganu, eu darllen, eu dweud neu’u canu.