Amser Rhigwm Mawr Cymru 2020: Am wythnos o rigymu difyr!

Published on: 25 Chwefror 2020 Author: BookTrust Cymru

Bu mwy na 22,000 o blant mewn ysgolion, meithrinfeydd, llyfrgelloedd a lleoliadau blynyddoedd cynnar ledled Cymru’n cymryd rhan yn Amser Rhigwm Mawr Cymru eleni!

Big Welsh Rhyme Time event

Cynhaliwyd Amser Rhigwm Mawr Cymru o ddydd Llun 10 i ddydd Gwener 14 Chwefror 2020. Bob blwyddyn, mae Amser Rhigwm Mawr Cymru’n hybu gweithgarwch rhannu rhigymau difyr a hwyliog ar gyfer plant 0-5 oed yng Nghymru, yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Rydyn ni wedi mwynhau rhannu ein hoff rigymau difyr a dathlu rhigymau a chaneuon er mwyn helpu plant i ddatblygu sgiliau siarad, gwrando, cyfathrebu a llythrennedd, gwella’u gallu i ganolbwyntio a’u hyder ac – yn anad dim – cael hwyl!

Gwnaethon ni rannu caneuon gwirion a rhigymau gwallgof drwy gydol yr wythnos. Dyma rai yn unig o’r uchafbwyntiau....

Ymunodd James Hook, yr eicon rygbi, â ni ar gyfer y rhigymu hwyliog. Meddai James. 'Mae magu tri chrwt wedi dangos i fi gymaint o hwyl sydd i’w gael yn darllen ac yn rhigymu gyda’ch plant! ’Dych chi’n cael caniatâd i ryddhau’r plentyn sydd y tu mewn ichi a bod yn wirion gyda’r rhai bach.'

Ysgrifennodd Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru gerdd hudol y mae posibl i bawb ei lawrlwytho a’i chanu.


Mae ein ffrindiau yng Nghyngor Llyfrau Cymru wedi ffurfio rhestr o rai o’r llyfrau mwyaf rhigym-wych.


Dywedodd Family Bookworms ac Huw Aaron, awdur a darlunydd llyfrau plant am eu cariad tuag at rigymau.  

...Ac yn bwysicach na dim, mae plant a theuluoedd ledled Cymru wedi bod yn cael hwyl yn canu, rhigymu a gwenu yn ein cwmni! Llongyfarchiadau mawr i bawb a gymerodd ran am wneud Amser Rhigwm Mawr Cymru 2020 yn wythnos rigym-wych, llawn hwyl!

What a week of rhyming fun! / Am wythnos o rigymu difyr!

Mother and smiling baby with Big Welsh Rhyme Time certificate
Playing with sticks and spoons at a Big Welsh Rhyme Time event
Smiling boy with a Big Welsh Rhyme Time sticker
Playing with sticks and spoons at a Big Welsh Rhyme Time event
Parents and children at a Big Welsh Rhyme Time event
Boy with Big Welsh Rhyme Time certificate
Big Welsh Rhyme Time event
Rhyming with sticks at a Big Welsh Rhyme Time event
Boy with Big Welsh Rhyme Time certificate
Boy playing with sticks at a Big Welsh Rhyme Time event
Child playing at Big Welsh Rhyme Time event
Child playing with plasticine at a Big Welsh Rhyme Time event
Mother and son at a Big Welsh Rhyme Time event
Mum and baby with Big Welsh Rhyme Time sticker
Mum and baby with Big Welsh Rhyme Time event
Storytime at a Big Welsh Rhyme Time event
Two girls playing at a Big Welsh Rhyme Time event
Storytime at a Big Welsh Rhyme Time event
Smiling baby with a Big Welsh Rhyme Time certificate

Image 1 of 18

Playing with sticks and spoons

Image 2 of 18

Boy with a Big Welsh Rhyme Time sticker

Image 3 of 18

Playing with sticks and spoons

Image 4 of 18

Parents and children at a Big Welsh Rhyme Time event

Image 5 of 18

Getting a Big Welsh Rhyme Time certificate

Image 6 of 18

A Big Welsh Rhyme Time event

Image 7 of 18

Rhyming with sticks

Image 8 of 18

Boy with Big Welsh Rhyme Time certificate

Image 9 of 18

Playing with sticks at a Big Welsh Rhyme Time event

Image 10 of 18

Enjoying a Big Welsh Rhyme Time event

Image 11 of 18

Playing with plasticine

Image 12 of 18

Enjoying a Big Welsh Rhyme Time event

Image 13 of 18

Baby with a Big Welsh Rhyme Time sticker

Image 14 of 18

Baby getting his certificate

Image 15 of 18

Storytime

Image 16 of 18

Enjoying the toys

Image 17 of 18

Storytime

Image 18 of 18

BookTrust Cymru sy’n trefnu Amser Rhigwm Mawr Cymru fel rhan o’r rhaglenni y mae Llywodraeth Cymru’n eu hariannu. Mae Cyw, Blynyddoedd Cynnar Cymru, Llenyddiaeth Cymru, Mudiad Meithrin, NDNA Cymru, PACEY Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru'n cefnogi dathliadau 2020.

Amser Rhigwm Mawr Cymru

Ymunwch gyda ni ar gyfer dathliad blynyddol o rannu rhigymau, cerddi a chaneuon. Hwyl rhigymu i bawb!

Dysgu rhagor