Parhau ag Amser Stori

Wnaethoch chi fwynhau defnyddio'ch pecyn ac ydych chi'n awyddus i ddysgu mwy?

Sgroliwch i weld sut y gallwch chi barhau ar eich siwrnai ddarllen â syniadau, gweithgareddau, argymhellion ar gyfer llyfrau a mwy. Hefyd, dysgwch beth arall y mae BookTrust Cymru'n ei gynnig ar gyfer eich plentyn.

Mwy o syniadau difyr yn ymwneud â'r llyfrau yn eic

Fferm Siglo Bysedd: Gwnewch eich anifeiliaid fferm eich hun (1–2 oed)

Fe fydd angen:

  • Gwlân cotwm
  • Glud
  • Rholyn toiled
  • Beiro

Gludwch ychydig o wlân cotwm neu bapur wedi'i gywasgu i du allan y tiwbyn cardbord i wneud eich defaid eich hun! Beth am gael hwyl yn gwneud anifeiliaid eraill a chreu eich fferm eich hun yn llawn ffrindiau – gallwch chi eu defnyddio i ddod â'r llyfr yn fyw gyda'ch plentyn!

Mwnci Bach – gwneud mwnci o ôl-llaw! (3-4 oed)

Fe fydd angen:

  • Paent brown
  • Papur
  • Beiro ddu neu bensil

Paentiwch eich llaw â phaent brown. Gwnewch ôl-llaw ar eich papur. Y bysedd fydd y pedair braich a choes a gall y bawd fod yn wddf neu'n gynffon iddo. Gwnewch eich ôl-bawd ar gyfer pen y mwnci, ac ôl-bys bach ar gyfer y clustiau. Tynnwch lun traed/dwylo ar y breichiau a'r coesau. Tynnwch lun wyneb eich mwnci. Gallwch chi liwio darn hirgul o bapur brown fel cynffon hir. Beth am chwarae gosod y gynffon ar y mwnci?

Beth arall sydd ar gael?

Dod o hyd i lyfrau gwych

Fe fydd ein Canfyddwr Llyfrau’n eich helpu i ddarganfod y llyfrau gorau oll i blant o bob oedran: yn syml, dewiswch hoff thema’ch plentyn, dewiswch ystod oedran a dod o hyd i stori.

Mwy o lyfrau gwych i blant 1-2 oed

Gweler y llyfrau

Llyfrau wedi'u dewis â llaw y gallwch eu defnyddio i barhau â'ch anturiaethau pecyn Plant Bach.

Mwy o lyfrau gwych i blant 3-4 oed

Gweler y llyfrau

Llyfrau wedi'u dewis â llaw y gallwch eu defnyddio i gadw anturiaethau darllen eich teulu i fynd.

Mwy o straeon, fideos a gweithgareddau

Ewch i borth AmserGartref BookTrust Cymru i ddod o hyd i fwy o weithgareddau, fideos o straeon a chystadlaethau i’ch plentyn eu mwynhau.

AmserGartref BookTrust Cymru

Eich siwrnai gyda BookTrust Cymru

Cadwch eich llygaid ar agor am eich pecyn nesaf oddi wrthyn ni