Amser Stori BookTrust Cymru i deuluoedd
Dysgwch sut allwch chi gymryd rhan gyda hwyl Amser Stori BookTrust Cymru yn eich llyfrgell.
Beth yw Amser Stori BookTrust Cymru?
Mae Amser Stori BookTrust Cymru yn brofiad cyffrous newydd mewn llyfrgelloedd ar gyfer teuluoedd, gan gynnig ffordd hawdd a hwyliog i ddifyrru eich plant dan 5 yn eich llyfrgell. Dewch i fwynhau gweithgareddau rhad ac am ddim mewn lleoliad ble gallwch gael hwyl a mwynhau straeon gyda'ch gilydd.
Adroddiad Gwerthuso: Amser Stori BookTrust Cymru 2022-23 - Lawrlwytho nawr
Sut ydw i'n cymryd rhan?
Yn 2023, mae Amser Stori BookTrust Cymru yn digwydd mewn llyfrgelloedd dethol ledled Cymru. Ewch i'ch llyfrgell leol i weld a fyddan nhw'n cymryd rhan – gallwch ddod o hyd i'ch llyfrgell agosaf yma. A pheidiwch ag anghofio dweud wrth eich teulu a ffrindiau am Amser Stori BookTrust Cymru hefyd!
Dewch i weld llyfrau Amser Stori BookTrust Cymru ar gyfer eleni
Rydyn ni wedi dewis chwe llyfr sy'n berffaith, yn ein barn ni, ar gyfer eu mwynhau gyda phlant 0-5 oed!
Mae'r Olwynion ar y Bws / The Wheels on the Bus
Addasiad: Llinos Dafydd
Darlunydd: Jo Byatt
Mae'r olwynion ar y bws yn mynd rownd a rownd, rownd a rownd, rownd a rownd... Dewch ar daith gyda ni yn y llyfr lliwgar a hwyliog hwn. Trowch y tudalennau a chanu gyda'r anifeiliaid cyfeillgar wrth iddyn nhw deithio ar y bws bach!
Sawl Bwci Bo? / How many Bwci Bos?
Awdur: Joanna Davies
Darlunydd: Steven Goldstone
Ewch ati i gyfri i ddeg ac yna yn ôl gyda'r bwystfilod Bwci Bo drygionus, mewn antur rhifo newydd. Gan gyfuno dysgu gyda hwyl a sbri, ewch ar grwydr ym myd amryliw'r Bwci Bo.
Morfil a Mi dan y Lli / The Tale of the Whale
Awdur: Karen Swann
Darlunydd: Padmacandra
Addasiad: Ceri Wyn Jones
Dewch ar daith hudol o ryfeddod a darganfod o draethau tawchaidd hyd foroedd rhewllyd. Mae'r stori brydferth hon am gyfeillgarwch rhwng plentyn a morfil yn ein gwahodd i ystyried ein cyfrifoldeb tuag at yr amgylchfyd, a cheir ynddi ble uniongyrchol am weld diwedd ar lygredd plastig.
Broga ar y Fferm / Frog at the Farm
Awdur / Darlunydd: Jo Lodge
Llyfr geiriau cyntaf ar gyfer babis, gyda nodwedd llygaid mawr a lluniau llachar.
Codi Fflap Pi-Po! I ffwrdd â ni! / Pop-Up Peekaboo! Things that go
Awdur: Dawn Sirett
Mae'r llyfr hwn yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni. Mae dysgu trwy chwarae yn hwyl ac mae pob plentyn bach yn mwynhau chwarae pi-po!
1, 2, 3, Dawnsio Dawns y Deinosor / 1, 2, 3, Do the Dinosaur
Awdur: Michelle Robinson
Darlunydd: Rosalind Beardshaw
Addasiad: Eurig Salisbury
Tyrd i ddysgu sut i fod yn ddeinosor gyda Tomi! Stompia dy draed a sigla dy gynffon - tyrd i gael hwyl yn y llyfr lluniau lliwgar hwn a'i stori sy'n odli gan awdur byd-enwog y gyfres Goodnight, Michelle Robinson, a'r artist anhygoel Rosalind Beardshaw.