Trysorau Bychan

Cerdd newydd hyfryd am y trysorau bach y gall plant ddod o hyd iddyn nhw ar eu hanturiaethau dyddiol.

Casia Wiliam: "Mae BookTrust Cymru'n gwneud cymaint o waith da ac yn creu cynifer o adnoddau gwych ac felly dw i'n falch iawn o gael bod yn rhan o'r prosiect yma eleni, ac yn edrych ymlaen at greu adnodd newydd sbon fydd yn tanio dychymyg plant a'u cyflwyno i hwyl odli"

Dyma'r Taflenni Rhigwm a Gweithgarwch yn Saesneg

Am Casia Wiliam

Mae Casia Wiliam yn fardd ac yn awdur. Cyhoeddodd Eiliad ac Einioes, ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth i oedolion yn ystod haf y pandemig, 2020. Enillodd Wobr Tir na Nog yn 2021 am ei nofel i blant, Sw Sara Mai. Yn ogystal â chyhoeddi gwaith gwreiddiol mae Casia wedi addasu nifer o straeon a nofelau adnabyddus o Saesneg i Gymraeg.

Casia oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2017 a 2019, a bu'n aelod o dîm Y Ffoaduriaid ar gyfres Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru am ddegawd, rhwng 2009 a 2019, cyn symud o Gaerdydd.

Mae Casia bellach yn byw yng Nghaernarfon efo'i gŵr Tom a'u meibion, Caio a Deri.

Mwy o hwyl Amser Rhigwm Mawr Cymru yma