BookTrust Cymru’n lansio wythnos o rigymau a straeon i hybu llesiant plant a chefnogi teuluoedd yn ystod y cyfnod clo
Published on: 8 Chwefror 2021 Author: BookTrust Cymru
Bydd miloedd o blant yn cymryd rhan yn Amser Rhigwm Mawr Cymru blynyddol BookTrust Cymru yr wythnos hon. Mae’n ddathliad o rannu rhigymau, caneuon a cherddi yn y blynyddoedd cynnar.
Wrth i adroddiadau cynyddol bryderus ymddangos am effaith cyfnodau clo dilynol ar deuluoedd, a’r bwlch datblygiad sy’n lledu yn achos rhai plant, mae’r elusen wedi cynllunio’r wythnos hon i ddenu teuluoedd, athrawon ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog fydd yn gallu helpu i ddatblygu sgiliau iaith, cyfathrebu a chymdeithasol yn ogystal â gwella llesiant. Amser Rhigwm Mawr Cymru yw’r diweddaraf o blith mentrau’r elusen i gefnogi plant a theuluoedd – a phobl sy’n gweithio gyda nhw – yn ystod argyfwng Covid, sydd hefyd wedi cynnwys dosbarthu dros 26,000 o lyfrau i’r teuluoedd mwyaf anghenus yng Nghymru ers mis Ebrill 2020.
Eleni, bydd Amser Rhigwm Mawr Cymru’n canolbwyntio ar y sbort a geir gydag odli, gyda rhigymau a chaneuon wedi’u comisiynu’n newydd sbon yn Gymraeg, Saesneg a dwyieithog er mwyn i blant ymuno yn yr hwyl, a bydd y cyfan ar gael ar lein drwy gydol yr wythnos. Mae dros 21,000 o blant eisoes wedi cael eu cofrestru i gymryd rhan, a disgwylir i lawer mwy ymuno drwy gyfrwng sesiynau ar lein ac mewn person dan ofal ysgolion, llyfrgelloedd, meithrinfeydd, Cylchoedd Meithrin a grwpiau chwarae.
Mae’r rhigymau a’r caneuon, a gyfansoddwyd gan bum artist, yn archwilio themâu ac arddulliau gwahanol, o ganeuon syml i lefaru ar sail curiadau. Bydd Sean Chambers yn cynnal sesiynau arlunio ar y cyd ar lein yn seiliedig ar rigwm newydd am fwystfilod; bydd Laura Bradshaw a Joseph Gnagbo yn rhannu ‘Bore Da, Little Bee’ amlieithog; bydd anturiaethau yn y gofod gydag Iwan Garmon; a bydd y bardd Rufus Mufasa yn rhannu gwaith newydd a ysbrydolwyd gan yr enfys.
Wrth i bryderon gynyddu fod rhai plant o gartrefi sy’n siarad Saesneg yn colli ar gyfleoedd i gael mynediad i’r Gymraeg yn ystod y cyfnod clo, cafodd y gweithiau newydd hyn eu comisiynu i roi profiadau newydd i blant o ran clywed rhigymau a chaneuon yn Gymraeg, Saesneg a dwyieithog. Maen nhw’n cynnwys darnau a gyfansoddwyd yn wreiddiol yn Gymraeg a’u cyfieithu i’r Saesneg, a’r ffordd arall o gwmpas, yn ogystal â gweithiau dwyieithog newydd.
Topics: Welsh language, News, Wales