Gweinidog Addysg yn lansio rhaglen newydd i roi hwb i sgiliau siarad a gwrando 10,000 o blant meithrin

Published on: 11 Ionawr 2019

Caiff adnoddau sy’n cefnogi sgiliau llafaredd eu hanfon at blant 3-4 oed ledled Cymru fel rhan o raglen newydd y mae Llywodraeth Cymru’n ei hariannu.

Ar 14eg Ionawr 2019, bydd 10,000 o blant mewn meithrinfeydd yng Nghymru’n derbyn adnoddau am ddim i gefnogi sgiliau llafaredd. Mae’r adnoddau’n rhan o raglen Feithrin Pori Drwy Stori newydd BookTrust Cymru, y mae Llywodraeth Cymru’n ei hariannu.

Pori Drwy Stori Nursery resources
Fe fydd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, yn lansio’r rhaglen heddiw yn Ysgol Gynradd Stacey yng Nghaerdydd. Fe fydd pob plentyn sy’n cymryd rhan yn y rhaglen newydd yn derbyn dwy set o adnoddau. Mae’r set gyntaf yn canolbwyntio ar rannu rhigymau a straeon, a’r ail set yn canolbwyntio ar gael hwyl yn darllen ac yn siarad am lyfrau.

'Mae Llywodraeth Cymru’n falch iawn o gefnogi rhaglen Feithrin Pori Drwy Stori BookTrust Cymru yn ogystal â’u rhaglenni eraill, fel Dechrau Da. Mae sgiliau cyfathrebu’n hanfodol i lwyddiant ein plant a’n pobl ifanc, ac rydyn ni wedi ymrwymo i’w helpu nhw i ddatblygu’r sgiliau hynny trwy’r rhaglenni hyn.
Bydd plant ifanc ledled Cymru’n cael budd o’r adnoddau hyn sy’n rhad ac am ddim, ac rydw i’n annog rhieni a gofalwyr i ymgysylltu’n llwyr â nhw, nid yn unig fel ffordd i wella sgiliau llafaredd eu plant ond hefyd fel ffordd i gael hwyl ac i feithrin perthynas agos drwy gân a rhigwm.' Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg

Mae’r rhaglen Feithrin Pori Drwy Stori’n adeiladu ar raglenni’r BookTrust, fel Dechrau Da a Pori Drwy Stori, sydd wedi hen sefydlu yng Nghymru. Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r ddwy raglen ac maen nhw ar gael i bob plentyn yng Nghymru yn rhad ac am ddim, ac mae plant, teuluoedd ac ysgolion yn derbyn adnoddau a llyfrau am ddim i gael hwyl yn darllen ac yn rhannu rhigymau o fisoedd cyntaf eu bywyd i’w blwyddyn gyntaf yn yr ysgol.

I gael gwybod mwy ewch i Pori Drwy Stori neu dilynwch ni ar @BookTrustCymru

Jan Mills, ymgynghorydd addysg a chyn-athrawes, yn esbonio pam ei bod hi’n teimlo’n gyffrous ynglŷn â’n rhaglen Feithrin newydd yng Nghymru.

Mae ein gwaith yn cefnogi pob teulu yng Nghymru o flwyddyn gyntaf bywyd eu plentyn hyd at ddiwedd eu blwyddyn Derbyn yn yr ysgol, gan ddechrau drwy roi anrheg o ddau lyfr BookTrust yn y pecyn Dechrau Da Babi.

I gael gwybod mwy am ymgyrch Llywodraeth Cymru ‘Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref’ ewch i www.facebook.com/dechraucartref neu ewch i @dechraucartref