Pyjamarama yn eich cymuned: syniadau ar gyfer ymarferwyr
Published on: 1 Ebrill 2019 Author: Francesca Wilks
Beth am wneud plant a theuluoedd eich ardal yn gyffrous ynglŷn â straeon a darllen amser gwely trwy gynnal parti Pyjamarama llawn hwyl ym mis Mehefin eleni.
Darganfyddwch fwy am Pyjamarama yng Nghymru
Os ydych chi’n un o’n partneriaid sy’n gwneud rhodd o lyfrau, rydyn ni’n anfon llyfrau rhad ac am ddim atoch chi, dalenni gweithgareddau gwych a dalenni rhigymau difyr i’w rhoi i’r plant a’r teuluoedd rydych chi’n gweithio gyda nhw yn ystod wythnos Pyjamarama, 3-9 Mehefin.
Rydyn ni wedi casglu rhai syniadau gwych ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau Pyjamarama a fydd wrth fodd y plantos a’u teuluoedd.
Dathlu gyda Pharti PJ
Beth am ymuno yn ysbryd Pyjamarama a gwahodd teuluoedd draw i gael ‘hwylnoswaith’ yn ystod y dydd? Gofynnwch i bawb wisgo’u hoff byjamas neu wisg gyfforddus a chynnal llawer o weithgareddau difyr ar thema.
Gallwch chi roi cynnig ar rai o’r rhain:
- Defnyddio blancedi a gobenyddion i adeiladu ffau
- Gwneud eich siocled poeth eich hun
- Cael gwledd ‘ganol nos’
- Canu a dawnsio i gyfeiliant eich hoff ganeuon a hwiangerddi amser gwely
- Defnyddio fflach lamp i ddweud stori gyda phypedau cysgod
Cwtsio amser stori
Does dim byd gwell na stori dda. Gwnewch gornel ddarllen ac annog teuluoedd i gwtsio gyda’i gilydd â’u llyfr newydd neu i gymryd rhan mewn darllen y llyfr mewn grŵp.
Mae plant wrth eu boddau â stori'n cael ei hadrodd yn ddifyr ac yn rhyngweithiol, felly gofynnwch iddyn nhw ymuno â llawer o synau a symudiadau wrth ichi ddarllen y stori. Fe fyddan nhw’n mwynhau holl synau’r cerbydau a’r symudiadau ar gyfer Car, Car, Truck, Jeep/Dacw'r Car Yn Dŵad.
I ffwrdd â chi i greu
Mae gweithgareddau creadigol yn hwyl fawr ac yn wirioneddol helpu i ddod â’r stori’n fyw. Beth am greu’ch crefftau eich hunain ar thema’n ymwneud â Car, Car, Truck, Jeep/Dacw’r Car Yn Dŵad neu straeon amser gwely eraill.
Gallwch chi hefyd roi cynnig ar rai o’r rhain:
- Lliwio hen gas gobennydd neu argraffu ein dalen pyjamas i’w lliwio
- Creu pyjamas anferthol i'r plant eu haddurno
- Gwneud penwisgoedd serennog gan ddefnyddio ein dalenni gweithgareddau
Hwylnoswaith y tedis
Dyma syniad gwych o Lyfrgelloedd Caerloyw a fydd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr â’r llyfrgell ac a fydd yn cael y plant i gymryd rhan yn Pyjamarama.
Gofynnwch i’r plant ddod ag un o’u hoff deganau i’r llyfrgell un prynhawn. Unwaith y maen nhw’n cyrraedd, clymwch label enw ar bob tegan a gofyn i’r plant ddweud ffarwel, a gadael eu tedis ar ôl i gael parti yn y llyfrgell dros nos.
Pan fydd y plant wedi gadael, gallwch chi gael hwyl yn tynnu lluniau o’r tedis yn edrych o gwmpas ac yn mynd ati i wneud pob math o fusnes llyfrgellyddol pwysig! Gallech chi hyd yn oed bostio lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol fel bod teuluoedd yn gallu dilyn eu hynt gartref.
Yn y bore, gwahoddwch y plant yn ôl i’r llyfrgell i gasglu eu teganau ac i glywed am bopeth a ddigwyddodd y noson gynt. Gallech chi hyd yn oed greu stori gan ddefnyddio’r lluniau rydych chi wedi’u tynnu. Fe fydd y plant mor gyffrous ac wrth eu boddau’n gallu ei darllen i’w teganau’r diwrnod wedyn!
Cynnwys rhieni a gofalwyr
Gwahoddwch rieni a gofalwyr i ymuno ag amser stori Pyjamarama, lle gallwch chi siarad am werth straeon amser gwely (neu unrhyw bryd!) a dangos rhai technegau adrodd stori gwerth chweil.
Ar ddiwedd y sesiwn, gallan nhw roi cynnig ar rai o’r awgrymiadau gan ddefnyddio’u copïau eu hunain o Car, Car, Truck, Jeep/Dacw’r Car Yn Dŵad.
Mae yna lawer o enghreifftiau o ddulliau gwych o fynd ati i ddarllen yma:
Beth bynnag sy’n iawn i chi
Mae’n hawdd gwneud Pyjamarama yn rhan o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau rydych chi eisoes yn eu cynnal.
Beth am osod thema Amser Rhigwm sy’n ymwneud â chaneuon amser gwely am yr wythnos, gan ddefnyddio ein dalen rigymau Pyjamarama, neu gallwch chi ddefnyddio rhai o syniadau crefftau Pyjamarama ar gyfer unrhyw sesiynau celf y byddwch chi’n eu cynnal.
Mae’n bosibl trefnu un diwrnod arbennig o ddathliadau neu gyfres o sesiynau galw heibio mwy hamddenol drwy gydol yr wythnos – gan wneud yn siŵr bod y strwythur, y raddfa a’r amseroedd yn iawn ar eich cyfer chi a’ch lleoliad.
Darganfyddwch fwy am Pyjamarama yng Nghymru
Oes gennych chi unrhyw syniadau gwych i ddathlu Pyjamarama? Rhowch wybod i ni trwy anfon e-bost i [email protected], neu drwy drydaru @Booktrust a defnyddio #pyjamarama.
Add a comment