Gwneud cadwyn bapur Pyjamarama ffynci
Published on: 26 Ebrill 2019 Author: Francesca Wilks
Beth am fywiogi’ch dathliadau Pyjamarama â chadwyn bapur fendigedig. Mae’r grefft syml hon yn hawdd i’r rhai bach ymuno ynddi a dim ond ychydig o ddeunyddiau sydd eu hangen.
Dilynwch y camau hawdd isod i wneud eich garlant Pyjamarama eich hun!
Fe fydd angen
• Papur - mae'n bosibl defnyddio unrhyw fath o bapur, hyd yn oed papur newydd
• Beiro neu bensil
• Siswrn – gwnewch yn siŵr mai oedolyn sy’n gwneud unrhyw dorri
• Addurniadau – unrhyw beth sydd gennych chi wrth law fel gliter, sticeri, pom-poms, beiros, paent, creonau
• Tâp gludiog
Beth i’w wneud
1. Torrwch eich papur yn stribedi hir.
2. Plygwch y papur fel acordion i wneud siâp hirsgwar. Gwnewch y plygiadau mor gyson â phosibl. Dylai’r siapiau hirsgwar fod y maint rydych chi eisiau’r pyjamas i fod.
3. Ar y siâp hirsgwar uchaf, tynnwch amlinelliad o byjamas. Gwnewch yn siŵr bod y breichiau’n mynd yr holl ffordd i’r ymyl.
4. Wedyn, torrwch y siâp hwn allan yn ofalus, gan ddal y papur sydd wedi’i blygu yn dynn. Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n torri ar hyd y plygiadau!
5. Dat-blygwch y gadwyn yn ofalus ac fe fydd llawer o byjamas gennych chi mewn rhes!
6. Nawr mae’n amser gwneud y pyjamas yn lliwgar! Beth am fynd yn wyllt a defnyddio addurniadau gwahanol ar gyfer pob un?
7. Os ydych chi eisiau cadwyn hir iawn iawn, gallwch chi ailadrodd y camau a gludo pennau’r ddwy gadwyn gyda’i gilydd gyda thâp gludiog.
8. Rhowch eich cadwyn bapur Pyjamarama i hongian lle mae pawb yn gallu ei hedmygu!
Add a comment