Dechrau Da
Cynlluniwyd Dechrau Da i gefnogi teuluoedd i ddarganfod yr hudoliaeth a ddaw yn sgil darllen ar y cyd o’r dyddiau cyntaf. Dysgwch ragor am y rhaglenni a gynigir gennym.

Rhaglenni ac adnoddau ar gyfer ymarferwyr
-
Bydd pob plentyn yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon rhwng 0 a 12 mis oed yn gymwys i dderbyn ein pecyn llyfrau rhad ac am ddim, a gynlluniwyd i helpu teuluoedd i ddarllen a rhannu straeon gyda’u plentyn o oedran mor ifanc â phosib.
-
Cynlluniwyd ein rhaglenni Dechrau Da Plant Lleiaf, Cyn Ysgol a Meithrin, sy’n ddwyieithog, i blant er mwyn cefnogi teuluoedd i ddarllen a rhannu straeon gyda’i gilydd.
-
Cynlluniwyd ein rhaglen Blynyddoedd Cynnar ddwyieithog i blant er mwyn cefnogi teuluoedd i ddarllen a rhannu straeon gyda’i gilydd.
-
Mae’r pecynnau hyn yn cael eu darparu er mwyn cefnogi teuluoedd, yn Lloegr, yn ychwanegol at unrhyw becynnau Dechrau Da eraill y gallen nhw dderbyn. Rhoddir nifer penodol o becynnau i Gydlynydd Dechrau Da pob awdurdod lleol, y gellir cysylltu â nhw drwy eich ymwelydd iechyd, clinig iechyd, lleoliad blynyddoedd cynnar neu lyfrgell leol.
-
Mae BookTrust wedi ymrwymo i annog teuluoedd o bob diwylliant i ymgysylltu â llyfrau, Rydyn ni eisiau sicrhau bod gan bob plentyn fynediad i lyfrau a’r cyfle i fwynhau darllen.
-
Mae Amser Stori BookTrust yn brofiad cyffrous yn y llyfrgell ar gyfer teuluoedd, sy’n cynnig ffordd hwyliog, hawdd a rhad ac am ddim o ddifyrru plant dan 5 oed mewn llyfrgelloedd lleol.
Beth yw Dechrau Da?
Mae rhaglen Dechrau Da, a ddarperir ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, yn cynnwys llyfrau, adnoddau a gweithgareddau sy’n annog a chefnogi darllen fel teulu ar gyfer plant bach ar gamau amrywiol o’u datblygiad fel rhan o’n taith ddarllen blynyddoedd cynnar.
Mae adnoddau arbenigol Dechrau Da ar gael hefyd i deuluoedd â phlant ag anghenion ychwanegol neu’r rheiny y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt.
Mae cyd-ddarllen yn gynnar mewn bywyd yn helpu i feithrin cariad at lyfrau, straeon a rhigymau, sy’n agor y drws at fanteision trawsnewidiol darllen – sy’n bwysig i bob plentyn, ond yn enwedig y rheiny o deuluoedd incwm isel neu gefndiroedd bregus.
“Roedd hi fel pe bai derbyn y pecyn Dechrau Da yn cael yr argraff fwyaf nodedig ymysg y teuluoedd hynny nad oeddent cyn hynny’n ymwneud â darllen ar y cyd â’u babi neu blentyn bach. Mae Dechrau Da fel pe bai wedi’u hatgoffa o’i bwysigrwydd, a rhoi’r adnoddau iddynt i weithredu ar yr wybodaeth hon.”
(Hines and Brooks, 2009, p.24)
-
Yr hyn mae ein hymchwil gyda theuluoedd o gefndiroedd incwm isel yn y Deyrnas Unedig yn dweud wrthym am bwysigrwydd cyd-ddarllen yn y blynyddoedd cynnar, a sut y gall ein rhaglenni Dechrau Da babi gefnogi hyn.
“Mae cynllun Dechrau Da’n parhau i dyfu a ffynnu. Bu ansawdd y pecynnau’n rhagorol ac mae croeso iddyn nhw bob amser. Mae’n braf gallu mynd â neges mor gadarnhaol o rieni, ac fel darllenwr brwd gydol fy oes, gwn faint o bleser sydd i’w gael mewn darllen, ac rwy’n cymeradwyo Dechrau Da yn llwyr. Hir y parhao!”
Julia Freeland Ymwelydd Iechyd, Hull
Dethol llyfrau Dechrau Da (gwybodaeth i gyhoeddwyr)
Cafodd y llyfrau ym mhecynnau Dechrau Da eu dethol gan banel sy’n cynnwys llyfrgellwyr, ymwelwyr iechyd, gwerthwyr llyfrau ac arbenigwyr eraill ym maes llyfrau plant. Nod y panel yw dewis llyfrau sydd â chynnwys difyr a chynhwysol ar gyfer plant bach a babis o bob cefndir.
Bydd BookTrust yn cysylltu â chyhoeddwyr i ofyn am gynigion ac i brynu llyfrau. Bydd cyhoeddwyr yn cyflwyno’r teitlau hyn yn uniongyrchol at BookTrust ac anfonir rhestr hir i’n panel dethol i’w ystyried. Bydd y panel yn darllen y llyfrau, gan fynnu adborth gan blant ble bo’n bosib, ac yna byddan nhw’n cwrdd i ddethol y llyfrau ar gyfer y pecyn.
Ni allwn dderbyn teitlau a hunangyhoeddwyd ar gyfer ein rhaglenni ar hyn o bryd.
