Darparu Dechrau Da iaith ddeuol

Mae BookTrust wedi ymrwymo i annog teuluoedd o bob diwylliant i ymgysylltu â llyfrau, Rydyn ni eisiau sicrhau bod gan bob plentyn fynediad i lyfrau a’r cyfle i fwynhau darllen.

Rydyn ni’n cynnig llyfrau Iaith ddeuol (ID) a chanllawiau i deuluoedd y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt (EAL), er mwyn iddyn nhw allu cael mynediad i lyfrau ac adnoddau i gefnogi cyflawni manteision darllen.

Cynlluniwyd pecynnau Dechrau Da Babi i helpu teuluoedd i ddechrau cyd-ddarllen o ddyddiau cyntaf bywyd babi oherwydd gwyddom po gynted y bydd teuluoedd yn dechrau, po fwyaf y bydd plant yn elwa yn y tymor hir.

Pam fod hyn yn cyfri

Mae ymchwil yn argymell fod teuluoedd yn siarad ac yn rhannu llyfrau yn eu mamiaith yn ogystal â Saesneg. Dangoswyd fod gan blant EAL well sgiliau meddwl a rhesymu, am fod angen iddyn nhw fod yn fwy hyblyg wrth ddeall iaith.

Mae cynnig llyfrau ID fel rhan o raglen Dechrau Da yn ffordd wych o gyflwyno rhannu llyfrau gerbron rhieni a gofalwyr nad ydynt efallai’n llwyr hyderus yn gwneud hynny yn Saesneg. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ymarferwyr gyfeiri’r rhieni at ble maen nhw’n gallu dod o hyd i ragor o deitlau ID, fel yn eu llyfrgell leol.

Gall llyfrau a roddir fod yn wahanol i’r rhai a ddangosir uchod 

Beth mae Dechrau Da’n ei gynnig

Mae ein rhaglen Dechrau Da’n cynnig nifer cyfyngedig o lyfrau ID mewn dros 30 o ieithoedd cymunedol, mewn partneriaeth â’r cyhoeddwr Mantra Lingua, y gellir eu hychwanegu at becynnau Dechrau Da Babi, Blynyddoedd Cynnar, i Blant Bach a Chyn Ysgol.

Yn ychwanegol, mae BookTrust hefyd y rhoi canllawiau rhad ac am ddim i rieni wedi’u cyfieithu i ugain o ieithoedd. 

Cynghorion ar roi adnoddau mewn dwy iaith i deuluoedd

  • Fydd pob teulu EAL ddim eisiau llyfr ID na chanllawiau, felly peidiwch â thybio y byddan nhw eisiau’u cael
  • Esboniwch fanteision amlieithedd y plentyn iddynt os ydyn nhw’n poeni y bydd eu plentyn yn drysu o wrando ar fwy nag un iaith
  • Gwiriwch i weld a yw’r canllawiau i rieni ar gael yn un o’u hieithoedd ac argraffwch gopi cyn i chi ymweld â’r teulu
  • Modelwch sut i rannu’r llyfr gyda’r plentyn
  • Anogwch aelodau eraill o’r teulu i ymuno, fel neiniau a theidiau. Allan nhw feddwl am unrhyw rigymau a hwiangerddi yn eu mamiaith i’w rhannu?
  • Sicrhewch y teuluoedd fod eu plentyn yn caru clywed sŵn eu llais yn unrhyw iaith
  • Cyfeiriwch y teuluoedd at fannau ble gallan nhw ddod o hyd i fwy o lyfrau yn eu mamiaith, fel eu llyfrgell leol.
  • Os nad oes ganddyn nhw fynediad i lawer o lyfrau ID eraill, modelwch sut y gallan nhw barhau i fodelu llyfrau sydd ar gael yn Saesneg yn unig, drwy siarad am y lluniau gyda’u plentyn.
  • Os nad yw’n bosib anrhegu’r llyfr ID a’r canllawiau gyda phecyn Dechrau Da, gall partneriaid sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda grwpiau cymunedol eu rhoi’n anrheg i deuluoedd cymwys; serch hynny, dylid hysbysu teuluoedd ynghylch sut i dderbyn eu pecynnau Dechrau Da ar wahân.
  • Gofynnwch i rieni / gofalwyr a ydyn nhw eisoes wedi derbyn llyfr ID cyn ei roi, rhowch un llyfr ID yn anrheg i bob plentyn unigol a gofynnwch i deuluoedd wrthod llyfr arall os ydyn nhw’n cael cynnig un gan bartner gwahanol.

Os ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr

Archebu llyfrau Iaith ddeuol

Os hoffech chi roi llyfrau ID yn anrheg i deuluoedd rydych chi’n gweithio gyda nhw, cysylltwch â’r Cydlynydd Dechrau Da yn eich awdurdod lleol. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, anfonwch e‑bost at [email protected]. Nodwch os gwelwch yn dda mai nifer cyfyngedig o lyfrau ID fydd ar gael gan Gydlynwyr Dechrau Da oherwydd y cyllid sydd ar gael.

Os ydych chi’n bartner sy’n darparu Dechrau Da Babi, Blynyddoedd Cynnar, i Blant Bach neu Blant Oed Cyn Ysgol ac eisiau prynu copïau ychwanegol uwchlaw’r nifer a glustnodwyd ar eich cyfer, anfonwch e‑bost at [email protected] er mwyn i chi dderbyn gostyngiad hael oddi wrth Mantra Lingua. 

Illustration of a boy in a chair reading.

Canfyddwr Llyfrau

Defnyddiwch y Canfyddwr Llyfrau i ddod o hyd i’r llyfrau perffaith ar gyfer dyddiau cynnar eu babi. Gallwch ddefnyddio ein hoffer arbennig i chwilio drwy gannoedd o adolygiadau am lyfrau plant, yn ôl oedran, categori a thema.

Argymhellion am lyfrau i blant 0-1 oed