Hwyl gartref i deuluoedd Cymru
Mae gennym lawer o syniadau gwych a phethau llawn sbort i chi roi cynnig arnyn nhw oddi wrth awduron, darlunwyr a storïwyr Cymru, yn ogystal â llawer o wybodaeth am sesiynau hwyliog ar lein yn Gymraeg a Saesneg.
Pa weithgareddau rheolaidd sy’n digwydd i blant yng Nghymru?
Rydyn ni wedi creu’r rhestr hon i’ch helpu chi i gynllunio eich dydd a datblygu amserlen hwyliog. Byddwn ni’n diweddaru’n gyson, felly cofiwch wirio’n aml!
Dyddiol:
- 6.00 Cyw S4C: Dawnsio gyda Huw (0-5, Cymraeg)
- 10.30 Cymraeg i Blant: Ymunwch â sesiwn rhigwm a chân gyda’ch Swyddog Cymraeg i blant lleol (0-3, Dwyieithog, addas i ddysgwyr)
- 15.00 Huw Aaron: Criw Celf: Sesiwn arlunio hwyliog ar lein (5+, Cymraeg)
- 18.00 Cyw S4C: Nos Da Cyw, sesiwn stori cyn cysgu (0-5, Cymraeg)
- 18.30 Cymraeg i Blant: Ymunwch â sesiwn stori cyn cysgu gyda’ch grŵp lleol (0-3, Cymraeg, addas i ddysgwyr)
Dydd Mawrth:
- 10.30 Ail ddydd Mawrth bob mis: Amser Odli Dechrau Da Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd (0-5, Saesneg)
- 17.00 Amser Stori Pennod Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd (5-11, Saesneg)
Dydd Mercher:
- 10.30 Amser Stori ac Odli Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd (0-5, Cymraeg)
- 14.00 Amser Stori ac Odli Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd (0-5, Saesneg)
Dydd Iau:
- 10.30 Dydd Iau olaf bob mis: Amser Rhigwm Dwyieithog Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd (5-11, Cymraeg a Saesneg)
- 17.00 Amser Stori Pennod Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd (5-11, Cymraeg)
- 17.00 Torfaen Libraries / Llyfrgelloedd Torfaen: Sesiwn rhigwm gyda’r grŵp lleol (0-3, dwyieithog)
Dydd Sadwrn:
- 10.00 Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd Amser Stori gyda Chrefft (5-11, Cymraeg)
- 11.00 Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd Amser Stori gyda Chrefft (5-11, Saesneg)
Eitemau y gallwch eu harchwilio ar unrhyw adeg:
- Amser Stori Atebol: Dewch i fwynhau rhai o’ch hoff lyfrau stori a llun gyda sesiynau amser stori Atebol (3+, Cymraeg)
- Firefly Press: Adnoddau llawn hwyl sy’n gysylltiedig â llyfrau Firefly (pob oedran, Saesneg)
- Cyhoeddiadau Rily: Dewch i gael sbort gyda gweithgareddau’n seiliedig ar lyfrau Rily (pob oedran, Saesneg)
- Gŵyl Straeon Beyond the Border: Dewch i fwynhau straeon traddodiadol o Gymru a phob cwr o’r byd, yn cael eu hadrodd gan rai o storïwyr gorau Cymru (pob oedran, dwyieithog)
- Swansea Libraries / Llyfrgelloedd Abertawe: Sesiynau Amser Stori ac Amser Rhigwm (0-3, dwyieithog)
- The Devil's Violin – A Month of Sundays: Stori draddodiadol newydd gyda cherddoriaeth, wedi'i hadrodd gan Daniel Morden a'i dewis fel adlewyrchiad o'n hamser (addas ar gyfer plant hŷn ac oedolion, Saesneg).
- Llyfrgelloedd Sir Gâr: Darllen gyda Gaynor (0-7 oed, dwyieithog)
- Llyfrgelloedd Sir Gâr: Amser Rhigwm gyda Gaynor (0-5 oed, dwyieithog)
Byddwn ni’n diweddaru’r tudalennau hyn yn gyson, felly cofiwch wirio beth sydd yma!
Ac mae digonedd yn fwy o bob cwr o’r DU ar BookTrust HomeTime
Gallwch ganfod mwy hefyd ar @BookTrustCymru