English Cymraeg

Ysgol Arswyd

gan Catrin Angharad, darluniau gan Sian Angharad

Oedran diddordeb: 6+
Oedran darllen: 7+

Cyhoeddwr Lolfa, 2024

  • Poetry and rhyme

Am y llyfr hwn

Mae Aneiria Fampeira yn teimlo’n ansicr, nid yn unig achos ei bod hi’n cychwyn mewn ysgol newydd, ond gan fod yr ysgol honno yn Ysgol Arswyd. Wrth iddi gerdded drwy’r drws daw’n amlwg yn syth nad oedd ganddi ddim byd i boeni amdani wrth iddi gwrdd â’i hathrawes gyfeillgar Mrs Gwrachen am y tro cyntaf. Mae ei hansicrwydd yn diflannu’n bellach wrth iddi gael croeso cynnes gan ei chyd-fwystfilod fel Ffranc Einstein ac Ystlumwen. Er iddi ddod ar draws ambell fwystfil mwy brawychus fel Crinc y Seiclops, erbyn diwedd ei noson gyntaf yn yr ysgol newydd mae hi’n fampir hapus ei byd. Dyma lyfr clyfar, llawn cymeriadau doniol fydd yn helpu darllenwyr ifanc i ddeall fod pawb yn teimlo’n ansicr ar adegau a bod cyfeillgarwch yn gallu blaguro yn y llefydd mwyaf annisgwyl. Gyda darluniau pen-i-gamp a phecyn athro yng nghlwm, mae hon yn ddewis da i unrhyw fwystfil bach i ddarllen, yn enwedig adeg Calan Gaeaf.

Cyhoeddwyd y llyfr yma yn Gymraeg.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn