The Shy Book
gan Howard Pearlstein, darluniau gan James Munro
Oedran diddordeb: 5 i 7
Oedran darllen: 7+
Cyhoeddwr Graffeg, 2024
Am y llyfr hwn
Un peth y dylwn i eich rhybuddio chi am y llyfr hwn yw ei fod yn swil. Mor swil, a dweud y gwir, nad yw eisiau i chi ei ddarllen. Bydd yn cuddio ei hun pan fyddwch chi’n troi’r dudalen ac yn gofyn i chi adael llonydd iddo. Y gwir yw nad yw’r llyfr hwn yn teimlo’n hyderus wrth gyfarfod â phobl newydd.
Ond mae ganddo gynllun yn ei dudalennau i’w helpu i wneud ffrindiau. Y gwir yw y gall y llyfr hwn ofyn cwestiynau i chi amdanoch chi eich hun hefyd. Trwy wneud hynny, mae’n dod yn fwy a mwy cyfforddus tan ei fod, o’r diwedd, yn teimlo…yn hapus! Mae llyfr arloesol Pearlstein a Munro yn chwarae gyda’r fformat llyfr lluniau safonol trwy annerch y darllenydd yn uniongyrchol.
Mae’r ‘llyfr’ yn gymeriad hoffus iawn ac mae lluniau clyfar Munro yn ychwanegu teimlad o lawenydd wrth i ddarllenwyr chwilio amdano ar bob tudalen neu chwerthin ar ei gudd-wisgoedd dwl. Yn yr un modd â llawer o lyfrau hunan-gyfeiriadol eraill, mae hwn yn gweithio orau o’i ddarllen ar lafar i blentyn fel y gall gymryd rhan yn y nodweddion holi a galw ac ymateb, ac felly gall yr oedolyn sy’n darllen ymgorffori ‘cymeriad’ y llyfr.
Nid yn unig y mae’r llyfr hwn yn ddoniol, yn rhyngweithiol ac yn greadigol, ond mae hefyd yn addysgu sgiliau cymdeithasol go iawn i blant, ac yn enwedig i’r rhai a allai ei chael yn anodd gwneud ffrindiau. Byddai hwn yn ddelfrydol i’w ddarllen fel dosbarth ar gyfer gwers ABGI neu amser cylch i drafod themâu hunanhyder neu gyfeillgarwch.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Ni a Nhw
5 i 9 years
-
Slug Life
5 i 9 years
-
Beat This Book
5 i 9 years
-
Holey Moley
5 i 9 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: ar gyfer plant 4 i 5 oed
Y llyfrau gorau o 2024–25 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 4–5 oed