Dodos Are Not Extinct
gan Paddy Donnelly
Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 7+
Cyhoeddwr O’Brien, 2023
Am y llyfr hwn
P'un a yw'n gosod pig ar ei hun i edrych fel aderyn neu'n gwisgo mewn siaced ginio i edrych fel un o'r pengwiniaid, mae dodos wedi dod o hyd i ffordd i fynd o gwmpas ac osgoi sylw.
Nid dodos yw'r unig rai sy'n feistri am newid eu gwedd. Mae llond gwlad o anifeiliaid enwog 'diflanedig' – o'r mamoth gwlanog i'r teigr ysgithrog – wedi dod o hyd i ffyrdd dyfeisgar i doddi i mewn i'w hamgylchfyd a'n twyllo ni i gyd!
Mae'r llyfr lluniau chwareus ardderchog hwn yn llawn i'r ymylon o hiwmor gwirion yn ogystal â chynnwys llawn gwybodaeth am greaduriaid diflanedig enwog. Hefyd, bydd y darllenwyr ifanc wrth eu boddau'n dod o hyd i'r anifeiliaid diflanedig y tu ôl i'r cuddwisgoedd doniol.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Mi Wnes i Weld Mamoth! / I Did See a Mammoth!
4 i 7 years
-
Ni a Nhw
5 i 9 years
-
Slug Life
5 i 9 years
-
Beat This Book
5 i 9 years