Does Dim yn Gyflymach Na'r Tsita / There's Nothing Faster Than a Cheetah
gan Tom Nicholl, darluniau gan Ross Collins
Adapted by Luned Aaron
Oedran diddordeb: 6 i 7
Oedran darllen: 6+
Cyhoeddwr Rily Publications, 2023
Am y llyfr hwn
Stori ddoniol, glyfar, llawn lliw bydd plant (a rhieni!) wrth eu bodd yn darllen. O’r tudalennau cyntaf, sydd yn rhestri cyflymder gwahanol anifeiliaid, mae’r llyfr yma yn bachu diddordeb ac yn sbarduno plant i ddefnyddio’u dychymyg i ddatrys problemau. Yn ganolbwynt i’r stori, mae’r ras i geisio herio’r syniad bod ‘Dim yn Gyflymach Na’r Tsita’. Wrth i anifail ar ôl anifail ceisio a methu curo’r ras, mae’n edrych fel petai'r tsita am fod yn fuddugol, ond daw tro yn y gynffon pan mae’r falwoden o ddechrau’r ras yn dychwelyd! Mae’r defnydd o gyflythrennu a hiwmor yn gwneud y testun yn un bydd plant yn mwynhau troeon ac mae’r diweddglo gwych yn golygu bydd darllenwyr yn bodio trwy’r tudalennau tro ar ôl tro.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Ni a Nhw
5 i 9 years
-
Slug Life
5 i 9 years
-
Beat This Book
5 i 9 years
-
The Shy Book
5 i 9 years