Mallory Vayle and the Curse of Maggoty Skull
gan Martin Howard, darluniau gan Pete Williamson
Oedran diddordeb: 9 i 11
Oedran darllen: 8+
Cyhoeddwr Nosy Crow, 2024
Am y llyfr hwn
Mae Mallory Vayle wedi cael ei hamgylchynu gan bobl farw erioed, ond mae’n eu hanwybyddu nhw y rhan fwyaf o’r amser. Felly, er bod angladd ei rhieni yn hollol ofnadwy, gallai fod yn waeth. Ni fydd yn teimlo eu breichiau o’i chwmpas fyth eto, ond o leiaf mae ganddi eu hysbrydion i sgwrsio â nhw ac i gadw cwmni iddi.
O ystyried eu dewisiadau cyfyngedig, mae Mallory yn mynd i fyw yn Carrion Castle dychrynllyd, sy’n llawn bwganod, gydag Aunt Lilith, seicig twyllodrus sy’n gweld y potensial i wneud arian o allu Mallory i gyfathrebu â’r meirw.
Ar ôl mynd i fyw gydag Aunt Lilith, mae dau beth pwysig yn digwydd: mae ei rhieni yn cael eu herwgipio gan ysbryd drwg ac mae Mallory yn darganfod penglog o’r enw Maggoty sydd wedi cael ei gloi mewn bocs mewn daeargell am 500 mlynedd a bron â marw eisiau wig gwallt melyn.
Ac felly mae cytundeb rhyfedd yn cael ei wneud. Fe wnaiff Maggoty helpu Mallory i gael ei rhieni yn ôl yn gyfnewid am wig a chymorth i godi’r felltith sy’n ei gadw wedi ei ddal yn ei benglog ei hun.
Yn cynnwys lluniau du a gwyn arswydus ac atmosfferig, mae hon yn stori frawychus ddoniol â chyfro, troeon yn y lot, pryfed cop, gwe pryf cop, llygod mawr, colynnau rhydlyd ac esgyll creclyd.
Bydd unrhyw un sy’n hoff o Nos Galan Gaeaf a’r macâbr wrth ei fodd!
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Gwen ac Arianrhod
9 i 14 years
-
Unfairies
5 i 11 years
-
Gloam
9 i 14 years
-
Cold Turkey
9 i 14 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: Ar gyfer plant 10 i 11 oed
Y llyfrau gorau o 2024–25 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 10–11 oed.