English Cymraeg

Dymuniad Dylan I Ble Aeth yr Athrawon?

gan Joanna Davies, darluniau gan Steven Goldstone

Oedran diddordeb: 6 i 9
Oedran darllen: 8+

Cyhoeddwr Atebol Cyfyngedig, 2025

  • Funny
  • Fantasy

Am y llyfr hwn

Yn ansicr am ei athro newydd ac yn poeni am ba mor galed bydd y gwaith ym mlwyddyn 6 dydy Dylan ddim yn edrych ymlaen at fynd yn ôl i’r ysgol. Pan mae’n clywed bod ganddo brawf mathemateg yn ei wers gyntaf mae amheuon Dylan fel petai nhw’n dod yn wir. Wrth ddioddef o bŵl o ddiffyg hyder mae’n copïo’r atebion oddi wrth ei ffrind. Mae ei athro yn sylwi ac yn dweud wrtho bydd rhaid iddo sefyll y prawf eto. Gyda’r trip ysgol yn agoshau ac mewn ymdrech i gadw’r helynt am y prawf rhag ei rhieni mae Dylan yn penderfynu adolygu. Ond wedi iddo gwblhau’r ail brawf daw’n amlwg na fydd yn cael mynd ar y trip ysgol wedi’r cyfan fel rhan o’i gosb am gopïo. Yn gandryll, mae Dylan yn gwneud dymuniad i bob athro yn y byd diflannu ac wrth gyrraedd yr ysgol y diwrnod wedyn daw’n amlwg i Dylan bod ei ddymuniad wedi dod yn wir. Er iddo fwynhau ei fyd ddi-athro i ddechrau, yn fuan daw’n amlwg am yr effaith negyddol mae’r realiti newydd yn cael ar ei ffrindiau, ei deulu a’r byd cyfan! Yn llawn lluniau cartŵn hwyilog, mae hon yn stori bydd darllenwyr ifanc yn mwynhau.

Cyhoeddwyd y llyfr yma yn Gymraeg.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn