Amelia Cheeseheart Investigates: Mummy Mayhem
gan Cat Weldon, darluniau gan Nene Lonergan
Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 6+
Cyhoeddwr Mini Guppy, 2025
Am y llyfr hwn
Mae Amelia Cheeseheart y llygoden yn byw mewn siop anrhegion amgueddfa gyda’i ffrind gorau, Webster y pryf cop.
Un diwrnod, maen nhw’n clywed synau rhyfedd yn dod o arddangosfa Oes yr Iâ, felly maen nhw’n gwibio draw i ymchwilio. Mae’r llygod ogof yn ofidus oherwydd bod teigr ysgithrog ar goll. Yna, mae’r llygod Llychlynnaidd yn dweud eu bod nhw wedi colli trysor hefyd. Maen nhw’n cyhuddo ei gilydd o ddwyn eu heiddo gwerthfawr, ac mae brwydr ar fin cychwyn.
Ond mae Amelia a Webster yn gwybod bod rhywbeth ar droed! A’u cyfrifoldeb nhw yw datrys y sefyllfa. Bydd arddull llyfr comics y stori hon yn eithriadol o ddeniadol i ddarllenwyr ifanc. Nid yn unig y mae lluniau lliwgar a phaneli unigryw i symud drwyddynt wrth ddilyn yr hanes, ond mae’r holl stori hefyd wedi’i rhannu’n benodau byr.
Mae hyn yn rhoi amser i’r darllenydd newydd gymryd seibiant a myfyrio ar yr hyn sydd wedi digwydd, sy’n ddefnyddiol yma gan fod cynifer o eiliadau o berygl a chyffro. Adroddir y stori mewn swigod siarad yn bennaf, ag ambell i linell naratif, ac yn ddefnyddiol mae’r ffont yn defnyddio llythrennau mawr a bach, a llythrennau ‘a’ babanod, sy’n ei gwneud yn haws i ddarllenwyr newydd eu hamgyffred na llythrennau mawr traddodiadol nofelau lluniau. Hwyl fyrlymus!
Mwy o lyfrau fel hyn
-
AdventureMice: Otter Chaos!
5 i 9 years
-
Megs
5 i 9 years
-
Unfairies
5 i 11 years
-
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: ar gyfer plant 6 i 7 oed
Y llyfrau gorau o 2024–25 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 6–7 oed