BookTrust Cymru
Mae BookTrust Cymru’n gweithio er mwyn ysbrydoli cariad at ddarllen ymysg plant am ein bod ni’n gwybod y gall darllen drawsnewid bywydau.
Ein nod yw dod â buddiannau darllen i blant sydd â’r angen mwyaf, gyda phlant a theuluoedd yn ganolog wrth inni arloesi, dylunio a datblygu ein rhaglenni.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru sy’n rhoi ein pecynnau a’n hadnoddau dwyieithog, ac yn rhannu ein negeseuon. Ariennir y gwaith hwn gan Lywodraeth Cymru.

Dechrau Da
Dydy hi byth yn rhy gynnar i ddechrau rhannu llyfrau, straeon a rhigymau! Drwy gyfrwng Dechrau Da, mae BookTrust Cymru’n gwneud yn siŵr fod gan bob plentyn yng Nghymru ei lyfrau’i hun yn y cartref, ac mae’n cefnogi teuluoedd i ddarllen gyda’i gilydd yn rheolaidd.
Clwb Bocs Llythyrau
Mae’r Clwb Bocs Llythyrau’n annog darllen er pleser a dysgu gartref. Mae’n helpu gwella gobeithion addysgol plant sy’n derbyn gofal. Yng Nghymru, mae parseli’n cynnwys llyfrau a deunyddiau ychwanegol yn Gymraeg.
Pori Drwy Stori
Rhaglen ddwyieithog ar gyfer plant oedran Derbyn ag ystod o alluoedd yw Pori Drwy Stori. Mae’r rhaglen yn adeiladu ar gynllun poblogaidd dechrau Da, a anelir at blant ifancach.

Amser Rhigwm Mawr Cymru
Amser Rhigwm Mawr Cymru yw ein dathliad blynyddol o rannu rhigymau, cerddi a chaneuon. Mae’n bwrlwm y rhigwm i bawb!
Mwy o wybodaethAdnoddau
Ar gyfer teuluoedd
Yma fe gewch chi awgrymiadau ar sut y gallwch chi gael hwyl yn rhannu straeon gyda’ch plentyn, mwy o wybodaeth am gynigion Blynyddoedd Cynnar BookTrust, a gweithgareddau pellach ac argymhellion am lyfrau i barhau â’ch antur ddarllen.
Ar gyfer partneriaid cyflenwi blynyddoedd cynnar
Croeso i’r hyb digidol penodol ar gyfer partneriaid cyflawni blynyddoedd cynnar BookTrust.

Ydych chi’n gweithio gyda phlant 0–5 oedyng Nghymru?
Wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgareddau,adnoddau a hyfforddiant ar gyferymarferwyr ac athrawon.
Cofrestru...