Dechrau Da Babi
Gwneir rhodd o becyn Dechrau Da Babi fel rheol yn ystod archwiliad iechyd 6 mis eich plentyn. Mae’n cynnwys llyfr dwyieithog, wedi’i ddewis yn ofalus i apelio at blant ifanc iawn, llyfryn gyda syniadau ar gyfer rhannu llyfrau, straeon a rhigymau, pyped bys dwyochrog a thaflen gyda gwybodaeth am ymuno â’ch llyfrgell leol.
Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar
Gwneir rhodd o becyn Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar fel rheol yn ystod archwiliad iechyd 27 mis eich plentyn. Mae’n cynnwys llyfr lluniau dwyieithog, llyfryn sy’n llawn syniadau ar gyfer rhannu llyfrau, straeon a rhigymau a thaflen gyda gwybodaeth am ymuno â’ch llyfrgell leol.
Os nad ydych chi wedi derbyn eich pecynnau Dechrau Da, yna cysylltwch â’ch ymwelydd iechyd.
Gwrandewch ar y stori Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar newydd