English Cymraeg

Y Clwb Blwch Llythyrau yng Nghymru

Dysgwch fwy am sut mae’r Clwb Blwch Llythyrau yn cael ei ddarparu yng Nghymru

A primary school aged girl is sitting in a kitchen with her female carer and doing activities from the blue Letterbox Club parcel

Bob blwyddyn byddwn ni’n anfon tua 900 o barseli Blwch Llythyrau i blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru. Mae’r parseli’n cynnwys llyfrau, gemau a deunyddiau papur a ddewiswyd yn arbennig i ysbrydoli cariad at ddarllen ac ymwneud â rhifedd.

Mae ein pecynnau’n annog plant i fwynhau dysgu y tu allan i’r ysgol a nhw sy’n cael eu cadw gartref i’w defnyddio’n annibynnol neu gyda’u gofalwyr. Mae’r parseli ar gael ar gyfer plant a phobl rhwng 3 a 13 oed. Bydd pawb yn derbyn chwe pharsel drwy’r post, un bob mis, fel arfer o fis Hydref tan fis Mawrth.

Mae pob parsel yn llawn dop o lyfrau, gemau mathemateg, deunyddiau papur a a llythyron oddi wrth awduron! Yng Nghymru rydym ni’n cynnwys llyfrau Cymraeg, dwyieithog neu ddiddordeb am Gymru yn ein parsel Blwch Llythyrau Porffor i blant 3–5 oed, yn ogystal â llyfrau syn addas i ddysgwyr neu siaradwyr Cymraeg yn ein parseli Blwch Llythyrau Coch a Blwch Llythyrau Glas. Gallwch ddysgu am ein dewis o barseli lliwgar drwy ymweld â’r dudalen hon.

Mae Cyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru’n darparu cyllid ar gyfer tua 800 o blant y flwyddyn i gymryd rhan yn y Clwb Blwch Llythyrau. Gall Consortia Addysg, Awdurdodau Lleol ac ysgolion hefyd ariannu lleoedd ychwanegol er mwyn galluogi rhagor o blant i fwynhau’r rhaglen.

Adroddiad Effaith

Lawrlwythwch ein hadroddiad effaith 2024, lle rydym yn rhannu canfyddiadau allweddol o’n dysgu rheolaidd gyda phlant sy’n derbyn Y Clwb Blwch Llythyrau. Mae hwn yn cynnwys canfyddiadau o’n harolygon plant a chardiau post adborth.

Mae pob parsel yn cynnwys adnoddau o safon uchel y mae ein dysgwyr ifanc yn dwlu arnyn nhw. Rydw i wedi defnyddio Parseli’r Clwb Blwch Llythyrau fel dull o symbylu cyfathrebu cadarnhaol rhwng gofalwyr a phlant, wrth roi cyfle iddyn nhw eistedd a darllen gyda’i gilydd. Mae’r parseli’n darparu cymaint mwy na geiriau mewn llyfr – maen nhw’n rhoddion oddi wrth bobl sy’n gofalu.

Tîm Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal – Ceredigion, Cymru

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda drwy e‑bostio [email protected]

Yn yr adran hon