Mae’r Clwb Blwch Llythyrau yng Nghymru yn 10 oed: beth sydd gan y plant i’w ddweud?
Rydyn ni’n derbyn adborth hyfryd gan blant ac oedolion o Gymru ben baladr. A ninnau’n dathlu 10 mlwyddiant, rydyn ni am rannu rhai o’n hoff gardiau post sydd wedi’u hysgrifennu â llaw gan rai o’r plant sy’n derbyn y Clwb Blwch Llythyrau.
Mae plant yn dweud diolch am y Clwb Blwch Llythyrau
Rhagor o ddyfyniadau gan blant sy’n derbyn y Clwb Blwch Llythyrau
Ro’n i’n teimlo mor gyffrous pan fyddai fy mharsel yn cyrraedd! Fe fyddwn i’n mynd â’r parsel i’r bwrdd ac yn ei agor yn ofalus. Rwy’n dwlu ar ddarllen – dyma fy hoff beth i’w wneud. Fe allaf i ddianc mewn llyfr. Mae gen i ambell lyfr newydd i’w ddarllen nawr – on’d ydw i’n lwcws! Diolch i bobl y blwch llythyrau am fy newis i. Rwy’n teimlo’n arbennig iawn.
Person ifanc, 13 oed
Roedd yn llawer o hwyl cael pecynnau i’w hagor oherwydd mi fydden nhw wastad ar fwrdd y gegin pan fyddwn i’n dod adre o’r ysgol
Demi
Rwy’n dwlu cael parseli bob mis, ac rwy nawr yn aelod o’r clwb blwch llythyrau.
Kieran
Diolch am bopeth rydych chi wedi’i wneud. Doeddwn i ddim yn hoffi darllen hyd nes i chi anfon yr holl barseli yna i mi. Rwy’n credu eich bod chi i gyd yn glên – diolch o galon.
Sophie
Mae’r eitemau rydych chi’n eu cael yn helpu gydag: ysgol, darllen, chwarae gemau a llawer o bethau eraill hefyd.
Bachgen 12 oed