Pengwin are ei Wyliau / Penguin on Vacation (bilingual)
Publisher: Dref Wen
Mae Pengwin wedi cael llond bol ar yr holl eira, felly mae’n penderfynu mynd ar wyliau! I ffwrdd ag ef i draeth heulog ar ynys bell, ond does ganddo ddim syniad beth i’w wneud. All e ddim sgïo ar y tywod, all e ddim sledio na dim. Mae’n cwrdd â ffrind newydd, Cranc, sy’n dangos i Pengwin sut i gael hwyl ar y traeth. Mae Pengwin yn cael llawer o hwyl gyda Cranc ac mae’n drist wrth ffarwelio. Ar ei ffordd adref, dyma Cranc yn ymddangos yn sydyn, gan ddweud ‘Mae arnaf i angen gwyliau hefyd!’ Mae Cranc yn treulio amser yn archwilio cartref rhewllyd Pengwin. Dyma lyfr llawn lluniau llachar, a digon i siarad amdano. Beth hoffwch chi wneud ar y traeth?
Penguin is very tired of all the snow, so decides to go on vacation! Penguin sets off to a sunny island beach, but has no idea what to do. He can’t ski on sand, he can’t sled on sand or anything. He meets a new friend, Crab, who showed Penguin how to have fun on the beach. Penguin has a great time with Crab and is sad to say goodbye. On his way back suddenly Crab appears, stating ‘I need a vacation too!’ Crab spends time exploring the icey home of Penguin. This wonderfully illustrated book is bright and bold, with lots to talk about. What is your favourite thing to do on the beach?
-
Llyfrau gwych i blant derbyn yn Gymraeg a Saesneg / Great books for reception school children in Welsh and English
Mae rhaglen Pori Drwy Stori Derbyn yn ysbrydoli cariad at lyfrau, storïau a rhigymau yng Nghymru. Rydyn ni wedi dewis rhai o’n hoff lyfrau a all helpu i ddatblygu sgiliau siarad, gwrando a rhifedd.
Our Pori Drwy Stori Reception programme inspires a love of books, stories and rhymes in Wales. We’ve picked out some of our favourite books that can help develop …