Bwrlwm y Rhigwm i Bawb
Maer’r Bwci Bo yn dwlu! Cymerwch olwg ar y pecyn anhygoel yma o fideo rhigwm animeiddiedig a gweithgareddau gan Joey Bananas.
Dyma’r Taflenni Rhigwm a Gweithgarwch yn Saesneg
Am Joey Bananas
Steven Goldstone
Mae Steven yn Ddylunydd ac yn Ddarlunydd. Mae e wedi dylunio nifer o wefannau ac apiau i blant, yn cynnwys gwefan ffilm 'The Muppets' i Disney a gwefannau rhaglenni plant i S4C. Fe yw darlunydd y gyfres llyfrau stori a llun, ‘Bwci Bo’ i blant bach. Cafodd ‘Sawl Bwci Bo?’, a gyhoeddwyd gan Atebol, ei ddewis gan BookTrust Cymru fel ei lyfr ‘Dechrau Da’ i blant bach yn 2022. Cyhoeddwyd y llyfr nesaf yn y gyfres, ‘Sut wyt ti, Bwci Bo?’ ar ddiwedd 2022. Mae e’n briod i Joanna ac yn byw yn Llanilltud Fawr.
Joanna Davies
Mae Joanna yn Ysgrifennwr a Chynhyrchydd Creadigol. Mae hi wedi gweithio fel Uwch Gynhyrchydd i ITV Cymru, S4C a’r BBC. Cynhyrchodd raglenni teledu a gwefannau dwyieithog i oedolion a phlant yn cynnwys Cbeebies a Bitesize. Mae Joanna wedi ysgrifennu nifer o nofelau dwyieithog. Hi yw awdur y gyfres llyfrau stori a llun, ‘Bwci Bo’ i blant bach. Cafodd ‘Sawl Bwci Bo?’, a gyhoeddwyd gan Atebol, ei ddewis gan BookTrust Cymru fel ei lyfr ‘Dechrau Da’ i blant bach yn 2022. Cyhoeddwyd y llyfr nesaf yn y gyfres, ‘Sut wyt ti, Bwci Bo?’ ar ddiwedd 2022. Mae hi’n briod i Steven ac yn byw yn Llanilltud Fawr.