Corff Prysur
Gadewch i ni symud gyda Rhiannon Oliver a'r rhigwm symud hwyliog hwn. Paratowch i rigymu hefyd gyda fideos cynhesu gwych!
Dyma’r Taflenni Rhigwm a Gweithgarwch yn Saesneg
Am Rhiannon
Mae Rhiannon Oliver yn actores, yn fardd ac yn arweinydd gweithdai. Fel actores mae wedi perfformio gyda The National Theatre, Shakespeare's Globe, National Theatre of Wales, BBC a Sky. Mae ei barddoniaeth i blant wedi ymddangos yn The Dirigible Balloon, Northern Gravy, Paperbound Magazine, Little Thoughts Press a Launchpad Magazine. Mae hi'n gweithio i Interact Stroke Support yn perfformio straeon, cerddi a chaneuon i gefnogi clefion sy’n adfer o strôc. Mae hi’n dysgu actio, ac yn arwain sesiynau Stori a Chân i blant ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hi'n ddysgwraig Cymraeg ac yn byw ym Mhenarth gyda'i theulu. Mae hi’n mwynhau cerdded, sglodion a siocled!