Dechrau ysgol: adeg dyngedfennol i gefnogi mwynhad o ddarllen
Darganfyddwch pam mae dechrau ysgol yn adeg dyngedfennol yn nhaith darllen plant, a sut i gefnogi mwynhad o ddarllen ar y cam hwn yn ein canllaw sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n defnyddio mewnwelediadau o Arolwg Teuluoedd Cenedlaethol BookTrust ac ymchwil ehangach.
Lawrlwytho’r canllaw
Lawrlwytho’r canllaw
Mae ein canllaw yn cynnwys:
- Pam mae dechrau ysgol yn adeg dyngedfennol
- Y canfyddiadau ymchwil diweddaraf ar fwynhad o ddarllen ymhlith plant 4 i 5 oed
- Beth sy’n digwydd ar y cam hwn a sut mae hyn yn llywio profiadau plant a theuluoedd
- Sut mae rhieni a gofalwyr yn barod i dderbyn cymorth, sy’n bwysig wrth sicrhau bod pawb yn gyfartal
- Adnoddau a syniadau ymarferol ar gyfer athrawon a gweithwyr blynyddoedd cynnar proffesiynol i helpu i gefnogi’r mwynhad y mae plant yn ei gael o ddarllen wrth iddynt ddechrau ysgol a thu hwnt
I ddyfynnu’r canllaw hwn: BookTrust (2026) Dechrau ysgol: adeg dyngedfennol i gefnogi mwynhad o ddarllen. Leeds: BookTrust
Beth mae’r ymchwil yn ei ddweud wrthym?
Yn ôl yr ymchwil hon, sy’n defnyddio data Arolwg Teuluoedd Cenedlaethol BookTrust ac ymchwil ehangach, er bod y mwynhad y mae plant yn ei gael o ddarllen yn aros yn uchel yn y blynyddoedd cynnar, mae’n gostwng yn sylweddol rhwng 4 a 5 oed.
Mae ein hymchwil yn awgrymu nad yw’n ymwneud â phlant yn colli diddordeb mewn llyfrau yn unig. Mae nifer o newidiadau yn digwydd ar yr adeg hon.
Beth sy’n newid wrth ddechrau yn yr ysgol?
Arferion darllen newydd: o rannu mewn ffordd chwareus i ddarllen mwy strwythuredig sy’n canolbwyntio ar sgiliau
Gwahanol fathau o ddarllen gartref: cydbwyso llyfrau ysgol, dewis plant, rhannu straeon a darllen yn uchel
Pwysau ar arferion y teulu: mwy o flinder, llai o amser hyblyg a mwy o ofynion sy’n cystadlu
Mae cymorth yn bwysig i sicrhau bod pawb yn gyfartal: mae gan rieni a gofalwyr fannau cychwyn gwahanol ac maent yn barod i dderbyn arweiniad
Sut allwn ni feithrin mwynhad o ddarllen wrth i blant ddechrau ysgol a thu hwnt?
Mae cymorth yn chwarae rôl hollbwysig ar yr adeg hon, ond mae angen iddo gyrraedd pob teulu a diwallu anghenion pob un. Rydym yn rhannu syniadau ymarferol i athrawon a gweithwyr blynyddoedd cynnar proffesiynol gefnogi darllen plant mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, yn yr ysgol ac yn yr amgylchedd dysgu gartref. Mae hyn yn cynnwys syniadau ar gyfer:
Ymwreiddio darllen a rhannu straeon wrth baratoi ar gyfer yr ysgol
Cefnogi rhieni a gofalwyr ar adeg o ansicrwydd pan maent yn agored eu meddwl
Cadw’r cydbwysedd rhwng darllen er mwynhad a dysgu sut i ddarllen
-
Ymunwch â BookTrust a’r siaradwyr arbenigol Tom Percival a Matthew Courtney i ddarganfod ein hymchwil ddiweddaraf ac i glywed awgrymiadau ymarferol ar gyfer cynnal arferion darllen wrth i blant ddechrau yn yr ysgol gynradd. (Yn Saesneg)
Mwy o adnoddau
-
Adnoddau i helpu athrawon i gefnogi plant sy’n dechrau ysgol gynradd yn y dosbarth Derbyn, trwy ddarllen a rhannu straeon. (Yn Saesneg)
-
Ar y dudalen hon, cewch wybodaeth am sut y gall rhannu llyfrau a straeon helpu i baratoi eich plentyn ar gyfer dechrau’r ysgol, ynghyd ag awgrymiadau da ac argymhellion am lyfrau.
Argymhellion darllen (Yn Saesneg)
-
Suggested reading for Reception: Autumn term
The first term of Reception is a key period as children begin their educational journeys, and books play a vital role.
-
Books to read aloud to ages 4 and 5
A selection of some of our favourite books to read with children aged 4 to 5. We’ve included a mix of catchy rhymes, loveable characters, awesome illustrations, and a massive dollop of silly humour!
-
Starting school: books to read with a new class
Starting school is a big step. This booklist is designed to support teachers in helping children begin Reception with confidence and enthusiasm. It features a carefully chosen mix of stories that explore emotions like worry and excitement, joyful read-alouds that build connection, well-loved classics, and interactive books that encourage movement and joining in.
-
Books to promote speech and language development
Introducing children to language in a fun way
-
Non-fiction and fact books that children aged 4–8 will love
Getting children to love reading isn’t necessarily about fiction and fairy tales. There are loads of brilliant non-fiction books that can teach your child about the world, as well as being entertaining, funny and gorgeous to look at. Sometimes non-fiction is also a fantastic way to tempt a reluctant reader into sitting down with a book. Here are just a few of our favourites to get your family ready and excited to read.
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025–26: ar gyfer plant 4 i 5 oed
Y llyfrau gorau o 2024–25 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 4–5 oed
Darganfyddwch ein rhaglenni
-
Dysgwch fwy am sut mae’r Clwb Blwch Llythyrau yn cael ei ddarparu yng Nghymru
-
Gwasanaeth tanysgrifio i lyfrau ar gyfer plant 2–4 oed sy’n ymwreiddio rhannu straeon gartref er mwyn cryfhau bondio ac ymlyniad ar gyfer teuluoedd maeth, teuluoedd sy’n darparu gofal gan berthynas a theuluoedd sy’n mabwysiadu.