Mae Bwrlwm y Rhigwm i Bawb wrth i Amser Rhigwm Mawr Cymru BookTrust Cymru ddychwelyd yn 2023

Published on: 30 Ionawr 2023

Mae BookTrust Cymru, yr elusen ddarllen i blant, yn annog teuluoedd, ysgolion, a lleoliadau blynyddoedd cynnar ledled Cymru i ymuno ag amser Rhigwm Mawr Cymru fis Chwefror eleni.

Bellach yn ei bumed flwyddyn, Amser Rhigwm Mawr Cymru yw'r wythnos o ddathliad cenedlaethol i rannu rhigymau, cerddi, a chaneuon dwyieithog gyda phlant yn y blynyddoedd cynnar. Caiff ei ddarparu mewn partneriaeth â llyfrgelloedd, ysgolion, meithrinfeydd a llawer o leoliadau eraill sy'n cefnogi plant ledled Cymru.  Gall teuluoedd ymuno yn yr hwyl gartref hefyd drwy fynd i wefan BookTrust Cymru, lle mae yna fideos unigryw gan awduron, beirdd a storïwyr, taflenni gweithgaredd i'w lawrlwytho, cystadlaethau cyffrous a llawer mwy.

Bydd mwy na 25,000 o blant rhwng 0-5 oed a thros 530 o leoliadau blynyddoedd cynnar yn cymryd rhan yn 2023 felly dyma fydd yr Amser Rhigwm Mawr Cymru mwyaf a gorau erioed!

Mae rhannu rhigymau a chaneuon yn weithgaredd hanfodol yn y blynyddoedd cynnar ac yn gallu helpu plant i ddatblygu eu sgiliau siarad a gwrando, yn ogystal â’u helpu i gynnal sylw a chanolbwyntio. Gall ddatblygu eu sgiliau iaith a chyfathrebu, gan gynnwys rhoi hwb iddyn nhw yn eu blaen pan fyddan nhw'n dechrau dysgu darllen. Gall hefyd fagu eu hyder i siarad, canu ac ymuno â gweithgaredd.

Bydd Amser Rhigwm Mawr Cymru 2023 yn cael ei gynnal rhwng 6ed a 10fed Chwefror 2023 a'r thema eleni yw 'Bwrlwm y Rhigwm i Bawb'.

Meddai Kate Cubbage, Cyfarwyddwr BookTrust Cymru:

“Mae’n hynod gyffrous gweld pumed flwyddyn y dathliad yma ledled Cymru, ar ffurf cân a rhigwm, yn cyrraedd rhagor o blant, teuluoedd a lleoliadau’r blynyddoedd cynnar nag erioed o’r blaen. Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Amser Rhigwm Mawr Cymru yn cefnogi ac yn annog teuluoedd ym mhob rhan o Gymru i gael hwyl wrth ganu, adrodd rhigymau a rhannu storïau. Mae cymryd rhan yn ffordd wych i gryfhau perthynas y plant ag iaith, hybu eu hyder a chefnogi eu camau cyntaf tuag at ddatblygu cariad gydol oes at ddarllen. Rydyn ni’n ddiolchgar am gyfraniadau ein partneriaid, gan gynnwys ysgolion, llyfrgelloedd a lleoliadau’r blynyddoedd cynnar, a fu’n gweithio gyda ni i alluogi mwy na 25,000 o blant o bob rhan o Gymru i gymryd rhan yn y dathliadau’r wythnos hon.”

Bydd Amser Rhigwm Mawr Cymru 2023 yn cynnwys rhigwm newydd wedi’i ysgrifennu a’i ddarlunio gan Joanna Davies a Steven Goldstone, sydd hefyd yn cael eu galw’n Joey Bananas. A hwythau’n adnabyddus am eu cyfres lwyddiannus o lyfrau lluniau dwyieithog i blant sy'n cynnwys cymeriadau doniol a gwirion Bwci Bo, mae BookTrust Cymru wrth eu bodd i gael y Bwci Bo eu hunain yn perfformio'r rhigwm mewn fideo gwych wedi’i animeiddio, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Bydd rhigwm hudolus newydd a gweithgarwch cysylltiedig gan y bardd a'r awdur, Sarah King, yn ogystal â fideos symudiadau a chynhesu wrth rigymu gan yr Actor a'r Bardd, Rhiannon Oliver.

Meddai Rhiannon:

“Mae odli’n ffordd wych o archwilio hwyl a phŵer iaith. Rwy'n falch iawn fy mod yn helpu plant ledled Cymru i ddathlu Amser Rhigwm Mawr Cymru 2023!”

I gael gwybod mwy ewch i wefan BookTrust Cymru neu dilynwch @BookTrustCymru ar Twitter a Facebook.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Phil Savery, Cydlynydd BookTrust Cymru drwy [email protected]

Bookbuzz

Bookbuzz is a reading programme from BookTrust that aims to help schools inspire a love of reading in 11 to 13-year-olds. Participating schools give their students the opportunity to choose their own book to take home and keep from a list of 16 titles.

Find out more