BookTrust yn datgelu llyfrau rhyngweithiol newydd cyffrous i’w cynnwys yn y bagiau Dechrau Da Babi

Published on: 17 Mai 2022

Mae BookTrust wedi cyhoeddi beth yw’r llyfrau newydd cyffrous a fydd yn cael eu rhoi i fabis ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fel rhan o raglen Dechrau Da Babi.

Cynlluniwyd Dechrau Da Babi i annog teuluoedd i ddechrau darllen gyda’u plant mor gynnar â phosib, ac mae gan bob babi a enir yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon hawl i dderbyn pecyn.

Bydd pob bag yn cynnwys dau lyfr, pypedau bys a thaflen wybodaeth sy’n esbonio manteision rhannu straeon a rhigymau gyda babis.

Cyn bo hir bydd teuluoedd yng Nghymru’n gallu mwynhau Mirror Baby: Hello You! a gyhoeddir gan Campbell Books, sy’n cynnwys ffotograffau du a gwyn trawiadol a thestun syml sy’n odli.

Byddan nhw hefyd yn derbyn fersiwn ddwyieithog o Little Baby's Playtime / Amser Chwarae’r Baban Bach. Yr awdur yw Sally Symes, mae’r darluniau gan Nick Sharratt a’r cyhoeddwr yw Dref Wen. Gyda darluniau llachar a thyllau wedi’u torri allan, mae’n sôn am ddiwrnod llawn hwyl y babi.   

Sut y dewiswyd y llyfrau

Detholir y llyfrau gan banel dethol gwybodus sy’n dwyn ynghyd Gydlynwyr Dechrau Da, llyfrgellwyr, gweithwyr blynyddoedd cynnar a staff canolfannau plant. 

Dengys ymchwil gan BookTrust fod 85% o deuluoedd yn dechrau darllen gyda’u plentyn yn ystod y flwyddyn gyntaf, ond wrth i blant dyfu, fod llawer o deuluoedd yn rhoi’r gorau i ddarllen gyda’i gilydd.

Gall manteision darllen fod yn ddwfn iawn, gan effeithio ar iechyd, llesiant, cwsg a datblygiad cymdeithasol plant, felly mae’r broses o ddethol yn canolbwyntio ar lyfrau sy’n cynnwys testun syml, hygyrch i apelio at bob teulu, hyd yn oed rai nad ydyn nhw’n ystyried eu hunain yn ddarllenwyr, neu rai nad ydyn nhw’n hyderus wrth rannu llyfrau â’u babis.

Bydd y llyfrau gorau ar gyfer eu rhannu â babis yn darparu cyferbyniad lliw mawr i gefnogi datblygiad gweledol, maen nhw’n rhyngweithiol gyda llabedi, fflapiau a drychau er mwyn annog sgiliau’r synhwyrau a sgiliau echddygol main, rhythm ac ailadrodd i hybu patrymau siarad cynnar.

Bydd teuluoedd yng Nghymru’n derbyn eu pecynnau diolch i gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru.  Mae BookTrust yn gweithio mewn partneriaeth â phob awdurdod lleol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, sy’n penderfynu sut orau i sicrhau fod y bagiau’n cyrraedd teuluoedd yn eu hardal leol. Gallai hyn fod drwy gyfrwng cofrestrwyr, ymwelwyr iechyd, llyfrgellwyr neu weithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar eraill.

Ar adeg o wasgfa sylweddol ar gyllidebau teuluoedd, gall fod mai llyfrau Dechrau Da Babi yw’r llyfrau plant cyntaf y bydd teuluoedd berchen. 

“Dyw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau rhannu straeon a darllen gyda phlant,” meddai Diana Gerald, Prif Weithredwr BookTrust.

“Dechrau pan fyddan nhw’n fabis yw’r ffordd orau i osod sylfeini arfer ddarllen gydol oes, ac mae’n golygu y gall pob plentyn fwynhau manteision gweddnewidiol darllen ar eu bywydau.

“Mae cael llyfrau rhagorol, bywiog, lliwgar a rhyngweithiol sy’n apelio at bob teulu, hyd yn oed rai nad ydyn nhw’n ystyried eu hunain yn ddarllenwyr, yn allweddol er mwyn annog teuluoedd ar eu taith ddarllen.

“Bydd babis a theuluoedd fel ei gilydd yn mwynhau agosrwydd a chlydwch cwtsho i mewn gyda’r llyfrau gwych hyn. Gall canolbwyntio ar y llyfrau a’r siapiau gwahanol mewn llyfrau, ac odli gyda’ch gilydd fod yn brofiad deniadol ac amlsynhwyrol i bob babi, all sbarduno cariad at lyfrau.”

Dysgwch ragor am Ddechrau Da

Lawrlwythwch y datganiad i’r wasg yn llawn

Topics: Bookstart, News

Sign up for our newsletter

Stay up to date with BookTrust by signing up to one of our newsletters and receiving great articles, competitions and updates straight to your inbox.

Join us