Rhigymau, caneuon a straeon yn denu’r holl sylw wrth i Amser Rhigwm Mawr Cymru BookTrust Cymru ddychwelyd ar gyfer 2022

Published on: 3 Chwefror 2022

Mae BookTrust Cymru, yr elusen ddarllen i blant, yn annog teuluoedd, ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar ledled Cymru i ymuno yn Amser Rhigwm Mawr Cymru yn ystod mis Chwefror.

Big Welsh Rhymetime logo

Bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, mae Amser Rhigwm Mawr Cymru'n ddathliad cenedlaethol wythnos o hyd ar gyfer rhannu rhigymau, barddoniaeth a chaneuon dwyieithog â phlant yn y blynyddoedd cynnar. Mae'n cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â meithrinfeydd, ysgolion, llyfrgelloedd a lleoliadau eraill sy'n cefnogi plant ledled Cymru. Gall teuluoedd gymryd rhan ar lein hefyd, ble bydd modd gweld fideos hwyliog gan awduron a chwedleuwyr, taflenni gweithgaredd a chystadlaethau.

Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod £5m yn ychwanegol o gyllid yn cael ei roi i ariannu rhaglenni darllen ledled Cymru er mwyn 'tanio angerdd am ddarllen' gan gynnwys buddsoddiad ychwanegol ar gyfer BookTrust Cymru. Eleni, diolch i'r cyllid ychwanegol hwn, mae BookTrust Cymru'n barod i ymestyn ei ddylanwad drwy gyfrwng Amser Rhigwm Mawr Cymru. yn ogystal â chyrraedd at blant a theuluoedd drwy gyfrwng llyfrgelloedd, ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar, bydd yr elusen hefyd yn ymgysylltu â'r teuluoedd hynny sydd angen y gefnogaeth fwyaf yn uniongyrchol, gan sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth a'r anogaeth sydd ei angen arnynt i gymryd rhan. Y bwriad yw gweld dros 450 lleoliad a 24,000 o blant rhwng 0-6 oed yn cymryd rhan.

Yn ogystal â chreu hwyl i blant, mae ymgysylltu â llyfrau, straeon a chaneuon o oedran ifanc iawn yn hanfodol i annog dull chwareus o ymwneud â datblygu iaith a sgiliau cymdeithasol, ac mae'n helpu i gefnogi datblygiad holistig babis a phlant bach. Mae odli a rhigymu'n ffordd wych i blant godi'u hyder er mwyn siarad, canu ac ymuno.

Bydd Amser Rhigwm Mawr Cymru 2022'n digwydd o 7–11 Chwefror 2022 a thema eleni yw #HwylRhigymuIBawb wrth i BookTrust Cymru ymdrechu i ddangos sut y gall rhigymu a rhannu straeon fod yn hygyrch i bob teulu a bod yn rhywbeth all gael ei ymgorffori mewn gweithgareddau bywyd beunyddiol.

Dywedodd Kate Cubbage, Cyfarwyddwr BookTrust Cymru:

"Mae'n hynod gyffrous gweld pedwaredd flwyddyn ein dathliad Cymru gyfan o ganu a rhigymu'n cyrraedd at fwy o blant a theuluoedd nag erioed o'r blaen. Gyda chefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru, mae Amser Rhigwm Mawr Cymru'n cefnogi ac annog teuluoedd o bob rhan o Gymru i gael hwyl yn canu, odli ac ymgysylltu â llyfrau a straeon. Mae cymryd rhan yn ffordd wych o gryfhau perthynas plant ag iaith, codi'u hyder a'u cefnogi ar eu taith ddarllen ehangach. Rydyn ni'n ddiolchgar am gyfraniadau ein rhwydwaith o bartneriaid ar draws ysgolion, llyfrgelloedd a lleoliadau blynyddoedd cynnar sydd wedi gweithio gyda ni i sicrhau fod holl blant Cymru'n cael y cyfle i gymryd rhan yn nathliadau'r wythnos hon."

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

"Mae odli a chanu mor bwysig ar gyfer datblygu iaith, yn ogystal â bod yn ffordd hwyliog a diddorol i'n dysgwyr ieuengaf ddatblygu sgiliau sylfaenol ar gyfer bywyd. Rwy'n falch iawn y bydd mwy o blant nag erioed yn gallu cymryd rhan yn Amser Rhigwm Mawr Cymru eleni o ganlyniad i fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Mae'n bwysig bod pawb yn gallu manteisio ar weithgareddau fel hyn sy'n helpu datblygu eu sgiliau a meithrin eu hyder – mae hyn yn arbennig o bwysig o ran cefnogi plant o'n cefndiroedd mwyaf difreintiedig. Rwy'n gobeithio bydd llawer o deuluoedd ledled Cymru yn mwynhau cymryd rhan yn y gweithgareddau sydd ar gael drwy gydol yr wythnos." 

Bydd Amser Rhigwm Mawr Cymru 2022 yn cynnwys cerdd newydd a ysgrifennwyd gan y Children's Laureate Wales presennol, Connor Allen ynghyd â rhigymau a chaneuon gan Dai Woolridge, Gillian Brownson, David Lennon, a chyn-Fardd Plant Cymru, Aneirin Karadog.

Amser Rhigwm Mawr Cymru

Ymunwch gyda ni ar gyfer dathliad blynyddol o rannu rhigymau, cerddi a chaneuon. Hwyl rhigymu i bawb!

Dysgu rhagor