Arbenigwyr yn galw am roi anghenion babanod a’r plant lleiaf wrth wraidd Llywodraeth nesaf Cymru

Published on: 2 Mawrth 2021 Author: BookTrust Cymru

Mae BookTrust Cymru yn rhan o grŵp o brif elusennau plant Cymru’n galw ar i bob plaid wleidyddol roi anghenion babis a phlant lleiaf ynghanol eu polisïau ar gyfer y Senedd nesaf.


Daw’r galwadau mewn ymateb i gorff cynyddol o dystiolaeth sy’n dangos gymaint o effaith niweidiol mae’r cyfnod clo yn ei gael ar fabis a phlant bach. Dangosodd ymchwil diweddar fod mwy o ofid ymysg rhieni newydd am eu hiechyd meddwl, gan gynnwys cynnydd mewn gorbryder a lleihad yn y gallu i ymdopi – ac mai teuluoedd sydd eisoes dan anfantais sydd wedi’u heffeithio waethaf.

Yn ogystal, mae ymchwil yn cyfeirio at ‘niwed cudd’ sy’n effeithio ar blant rhwng 0-2 oed yn arbennig, gan gynnwys llai o gyfle i ddefnyddio gwasanaethau, peryglon iechyd a datblygiad sy’n gysylltiedig â threulio mwy o amser dan do a chyfyngu ar ymwneud cymdeithasol, a chynnydd yn y tebygolrwydd o fod yn agored i brofiadau trawmatig ac amddifadedd materol.

Daw’r alwad gan y Grŵp Gweithredu Blynyddoedd Cynnar, a gynullwyd gan Plant yng Nghymru ac sy’n cynnwys BookTrust Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru, Home Start Cymru, Mudiad Meithrin, NSPCC Cymru/Wales, Chwarae Cymru, PACEY Cymru ac Achub y Plant.

Yn ôl Anna Westall, Swyddog Polisi gyda Plant yng Nghymru: “Rydyn ni wedi gwybod ers cryn amser mor bwysig yw’r 1,000 o ddyddiau cyntaf ar gyfer gweddill bywyd rhywun. Mae’r cyfnod hwn yn cael effaith hirdymor ar ddatblygiad deallusol, emosiynol a chymdeithasol plant, gan effeithio canlyniadau addysgol, perthynas a chyfle yn y dyfodol ac iechyd corfforol a meddyliol mwy hirdymor. Wrth gwrs, mae profiadau cyfoethog a chadarnhaol hefyd yn creu manteision ar unwaith i blant, yn enwedig i’w llesiant. Rhoddwyd llawer o sylw i brofiadau plant oedran ysgol yn ystod Covid. Ond allwn ni ddim â fforddio i esgeuluso anghenion ein plant lleiaf os ydyn ni’n mynd i osgoi ymestyn faint o amser fydd hi’n ei gymryd i ni ddelio ag effaith y pandemig.”

Mae’r alwad yn gofyn ar i bleidiau gwleidyddol ymrwymo i roi anghenion babis wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, ac i gefnogi hyn gyda chyllid, mwy o gydlyniant ar draws gwasanaethau a throsolwg ar lefel Cabinet.

Mae’r grŵp hefyd yn galw am roi mwy o gymorth i bobl sy’n gofalu am blant ac sy’n gweithio gyda nhw, boed fel rhieni a gofalwyr neu ymarferwyr blynyddoedd cynnar a gweithwyr proffesiynol eraill, yn ogystal â chynyddu ymwybyddiaeth gyhoeddus ehangach o’r hyn sy’n gwneud y 1,000 diwrnod cyntaf mor bwysig.

Meddai   Dr Sarah Witcombe-Hayes, Uwch Ymchwilydd Polisi yn NSPCC Cymru/Wales: ‘Mae babis gafodd eu geni yn ystod y pandemig wedi bod yn ddibynnol ar ofal oddi wrth rieni sy’n fwy tebygol o fod yn profi mwy o straen, bod yn gymdeithasol ynysig a phroblemau iechyd meddwl. Ond mae llawer o rieni newydd nad ydyn nhw’n derbyn y gefnogaeth sydd ei angen arnynt ar gyfer eu hiechyd meddwl am fod bylchau yn y gwasanaethau hanfodol hyn yng Nghymru. Mae angen gweithredu ar frys i helpu teuluoedd i adfer drwy sicrhau fod cefnogaeth iechyd meddwl ôl-enedigol ar gael i bob teulu waeth ble maen nhw’n byw. Heb hyn, mae gwir ofid y bydd y pandemig yn cael effaith niweidiol ar iechyd meddwl a llesiant rhieni a babis sy’n ddifrifol ac yn mynd i bara am amser maith.’

Mae’r grŵp hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd buddsoddi mewn cefnogi plant yn y cartref, yn ogystal ag mewn ysgolion a lleoliadau, ac i ddysgu oddi wrth brofiadau Covid – rhai cadarnhaol a negyddol.

Dywedodd Helen Wales, Pennaeth Cenedlaethol BookTrust yng Nghymru: ‘Mae’r pandemig wedi cyflwyno dysgu i’r cartref i gynifer o blant a theuluoedd. Nid yw hyn wedi bod yn hawdd erioed, ond mae tystiolaeth yn glir y gall amgylchedd dysgu cartref cadarnhaol chwarae rhan hanfodol i blant, yn enwedig yn y blynyddoedd cyn dechrau yn yr ysgol. Mae angen i ni sicrhau nad ydym yn anghofio'r profiadau cadarnhaol o fod gyda'n gilydd yn ystod cyfnod o gyfyngiadau symud a brofir gan deuluoedd ar brydiau, ac adeiladu ar y profiadau cadarnhaol yma ar gyfer y dyfodol. Yn benodol, rydym ni'n gwybod bod rhannu llyfrau, straeon a rhigymau wedi bod yn weithgareddau pwysig iawn i lawer o blant dros y deuddeg mis diwethaf, o ran dysgu ac iechyd meddwl. Mae'r gweithgareddau hyn yn creu cyfleoedd i ddianc ac ymlacio, i gael hwyl, rhannu profiadau gydag aelodau eraill o'r teulu ac maent yn chwarae rhan allweddol mewn amgylchedd dysgu cartref cadarnhaol.’