Athrawon Derbyn… enillwch ddathliad Pori Drwy Stori i’ch hysgol!

Published on: 19 Rhagfyr 2019

Rhannwch y pethau rydych chi wedi bod yn eu gwneud gyda rhaglen Dderbyn Pori Drwy Stori eleni am gyfle i ennill dathliad i’ch hysgol!

Mae'r gystadleuaeth yma nawr wedi cau. Dilynwch ni ar Twitter @BookTrustCymru i ddarganfod ym mha ysgol byddwn yn cynnal ein dathliad Pori Drwy Stori!

Rydym wedi cael tymor cyffrous iawn. Yn ystod yr hydref, lansiodd BookTrust Cymru yr Her Rigymu ar ei newydd wedd ac fe enwodd ddosbarthiadau Derbyn ledled Cymru ein hanturiaethwyr Pori Drwy Stori! Mae plant, rhieni ac athrawon wedi bod yn brysur yn canu a rhigymu gyda'n hanturiaethwyr Dewr, Aled, Poli a Rhodri.

Rydyn ni'n gofyn i ysgolion yng Nghymru ddweud mwy wrthon ni am y ffordd maen nhw wedi bod yn defnyddio rhaglen Dderbyn Pori Drwy Stori hyd yn hyn eleni am y cyfle i ennill dathliad i'w hysgol.

Mae rhaglen Pori Drwy Stori wedi'i chynllunio a'i darparu gan BookTrust Cymru, a'i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae rhaglen Dderbyn Pori Drwy Stori ar gael i bob ysgol a gynhelir, nid oes rhaid cofrestru amdani.

Ewch i'n gwefan am ragor o wybodaeth am y rhaglen.

Logo Cymraeg llywodraeth


Add a comment