Pecynnau BookTrust i deuluoedd sy’n ffoaduriaid

Published on: 18 Mehefin 2024

Mae partneriaid BookTrust yng Nghaerdydd wedi bod yn cydweithio i gefnogi lles emosiynol plant sy’n ffoaduriaid sy’n cyrraedd y ddinas drwy ddarparu pecynnau llyfrau BookTrust a sesiynau amser rhigwm llawn croeso i deuluoedd.

 

Mae sefydliadau cymunedol Caerdydd, sy’n Ddinas Noddfa – gan gynnwys ei llyfrgelloedd – yn cydweithio’n agos i helpu a chroesawu teuluoedd sy’n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth.   

Mae Margaret Holt, Cydgysylltydd Dechrau Da ar gyfer Llyfrgelloedd Caerdydd, yn rhoi o’i hamser i ddosbarthu llyfrau plant dwy-iaith BookTrust – sydd ar gael mewn dros 30 o ieithoedd, ac sy’n aml yn cael eu cynnwys mewn pecynnau Dechrau Da Babi a Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar, a ariennir gan Lywodraeth Cymru – i deuluoedd sy’n ffoaduriaid sy’n cyrraedd y ddinas.

“Rwy’n teimlo ei bod yn bwysig creu cysylltiad â theuluoedd drwy sicrhau eu bod nhw’n gallu cael llyfrau yn eu hiaith eu hunain, felly rydyn ni bob amser wedi cydweithio â thîm BookTrust i gael gafael arnyn nhw,” meddai Margaret. “Fe fydda’ i’n cysylltu ac yn clywed gan fy nghysylltiadau o amgylch y ddinas, fel Dechrau’n Deg, ymwelwyr iechyd a phartneriaid cymunedol y mae angen llyfrau plant arnyn nhw mewn llawer o ieithoedd gwahanol (gan gynnwys Pashto, Dari, Wcreineg, Bengali, Arabeg).”

“Mae’n hyfryd gweld rhai o lyfrau dwy-iaith newydd BookTrust ar y ffurflen archebu – maen nhw wastad yn llyfrau lluniau mor ddeniadol.”

 

Un o bartneriaid cymunedol Margaret yw Meryl Hoffer, Gweithiwr Datblygu Chwarae gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru (WRC), sy’n rhedeg grŵp chwarae rheolaidd i deuluoedd sy’n geiswyr lloches neu’n ffoaduriaid sy’n cyrraedd y DU.

Meddai Meryl: “Pan fydd teuluoedd yn ffoi o wlad ac yn cyrraedd Cymru, does ganddyn nhw ddim byd rhyngddyn nhw, heblaw bag o ddillad efallai. Dim ond hyn a hyn y gallan nhw ei gario. Fydden nhw ddim yn gallu mynd â llyfrau plant.

“Rwy’n teimlo’n angerddol y dylai plant allu cael gafael ar lyfrau o oedran ifanc. Mae’n normaleiddio pethau iddyn nhw.

“Mae llyfr yn rhan mor bwysig o amser gwely. Mae’n helpu plentyn i dawelu ac i setlo. Yn aml, mae teuluoedd yn eu cael eu hunain yn byw mewn gwesty, lle does ganddyn nhw ddim mynediad i le y tu allan, dim setiau teledu fel arfer a dim teganau. Dydy hi ddim yn sefyllfa hawdd.”

Yr hyn y mae pecynnau BookTrust yn ei olygu i deuluoedd sy’n ffoaduriaid

“Unrhyw bryd y bydd rhywun newydd yn dod i’r grŵp chwarae, y peth cyntaf rydyn ni’n rhoi i’r person hwnnw yw pecyn Dechrau Da Babi neu Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar,” meddai Meryl. “Mae teuluoedd yn gyffrous, yn hapus ac yn awyddus iawn i agor y pecynnau BookTrust. Maen nhw wrth eu bodd gyda’r pypedau!

“Ac mae’n wych gweld eu hymateb pan rydyn ni’n rhoi’r llyfrau dwy-iaith gan BookTrust. Mae wynebau rhieni’n disgleirio pan maen nhw’n gweld eu hiaith eu hunain yn llyfr stori eu plant. Mae’n golygu llawer iawn.”

Mae cael mynediad at gymorth darllen yng ngrŵp chwarae WRC yn bwysig i deuluoedd. “Roedd yna un ferch, tua naw mlwydd oed, dim ond newydd gyrraedd y wlad oedd hi, felly doedd hi ddim yn ddarllenwr hyderus.” meddai Meryl.

“Ond roedden ni’n darllen llyfr gyda’n gilydd mewn sesiwn ac roedd hi’n dweud rhai o’r geiriau o’r llyfrau yn uchel. Roedd y llyfr yn ddigon syml iddi ac roedd hi’n teimlo’n ddiogel i wneud hynny yn y grŵp. Gwnaeth pawb glapio ar y diwedd. Roedd e’n hyfryd.”

Gan adlewyrchu ar ei phartneriaeth â Chyngor Ffoaduriaid Cymru, meddai Margaret: “Mae Meryl yn fy ffonio neu’n anfon neges e-bost ata’ i os oes angen rhagor o lyfrau BookTrust arni mewn iaith benodol. Rwy’n cofio pan ofynnodd Meryl am lyfrau BookTrust mewn Tigrinia. Fe wnaeth hi basio’r llyfr lluniau hyn ymlaen i fenyw Eritreaidd yn y grŵp chwarae a oedd yn teimlo’n ynysig iawn.

“Fe ddywedodd Meryl wrtha’ i fod y llyfr hwn wir wedi helpu ei lles emosiynol. Fe roddodd rywbeth iddi y gallai hi ddal ymlaen iddo.”

Amserau rhigwm: cyfleoedd i gysylltu a chyfeirio

Mae Margaret hefyd yn darparu sesiynau amser rhigwm Dechrau Da, lle mae’n arwain teuluoedd drwy rigymau a chaneuon, yn chwarae ei gitar ac yn dosbarthu pecynnau BookTrust ar y diwedd. Yn y gorffennol, mae hi wedi cynnal y sesiynau mewn gwestai yng Nghaerdydd lle mae teuluoedd sy’n ffoaduriaid wedi bod yn byw dros dro.

Meddai Meryl: “Fe welson ni pa mor bositif oedd sesiynau amser rhigwm Margaret i grwpiau lleiafrifol. Fe ddechreuon ni eu hefelychu, gan redeg sesiynau tebyg gyda theuluoedd sy’n ffoaduriaid. Mae Margaret yn dal i ddod i wneud sesiynau gyda ni – mae’r plant yn heidio o’i hamgylch! Rydyn ni hefyd yn ymuno â’r sesiynau y mae hi’n eu cynnal mewn llyfrgelloedd pan allwn ni.”

Yr wythnos hon, mae Margaret a Meryl yn dod at ei gilydd eto i gynnal Amser Rhigwm Dechrau Da i deuluoedd yn ystod Wythnos Ffoaduriaid.

Meddai Margaret: “Mae sesiynau rhigwm ac amser stori yn ymwneud â chwarae ag iaith ac mae’r elfen gymdeithasol yn bwysig i deuluoedd hefyd. Drwy fod yna, gallan nhw gyfarfod â phobl eraill a sgwrsio gyda nhw. Mae Meryl mor gefnogol hefyd yn cysylltu ac yn cyfeirio teuluoedd. 

“Mae un o’n llyfrgellwyr o Gaerdydd Canolog yn dod hefyd i helpu i hyrwyddo’r ffaith bod gennym ni lyfrau llyfrgell a gwybodaeth yn ieithoedd brodorol pobl. Mae llawer o bethau cyffrous yn digwydd yn y Llyfrgell Ganolog fel rhan o Wythnos Ffoaduriaid, fel arddangosiadau o waith celf a grëwyd gan ffoaduriaid. Bydd sefydliadau fel The Birth Partner Project yno hefyd. Byddem wrth ein bodd yn annog teuluoedd sy’n dod i’r amser rhigwm hwn i alw draw.

Ychwanega Margaret: “Mae’r sesiynau hyn wastad yn teimlo’n werth chweil, ac rydych chi’n teimlo bod cysylltiad wedi bod. Mae’n hyfryd cael cefnogaeth BookTrust i allu rhoi pecynnau llyfrau am ddim. Mae’r teuluoedd mor ddiolchgar.”

Become a BookTrust Friend today

Give the gift of reading from just £3 a month

Open the magical world of books to children

Donate now