Mira a'r Trip Ysgol

Publisher: Atebol

Dyma ddewis perffaith ar gyfer darllenwr sydd yn mentro i lyfrau pennod am y tro cyntaf. Mae'r iaith, maint y penodau a'r lluniau cartŵn sydd yn ymddangos yn gyson drwy'r llyfr yn golygu y bydd y stori hon yn siŵr o fachu diddordeb.

Mae'r stori yn dilyn hanes Mira, wrth iddi fentro ar drip ysgol am y tro cyntaf a gorfod ymdopi gyda'r heriau sydd yn dod law yn llaw â hyn. Mae'r awdur yn ein tywys nid yn unig ar daith Mira i ganolfan awyr agored Cefn Eithin, ond hefyd ar ei siwrne emosiynol.

Mae pryderon Mira ynghylch delio gyda sefyllfaoedd newydd yn cael eu trin yn sensitif ac mae'r llyfr yn rhoi cyfle i ddechrau sgyrsiau pwysig am emosiynau.


This is a perfect choice for a reader venturing into chapter books for the first time. The language, chapter sizes and cartoon illustrations that appear consistently throughout the book mean that this story is sure to grab attention.

The story follows the story of Mira, as she ventures on a school trip for the first time and has to cope with the challenges that come with this. The author takes us not only on Mira's journey to Cefn Eithin outdoor centre, but also on her emotional journey.

Mira's concerns about dealing with new situations are handled sensitively and the book provides an opportunity to start important conversations about emotions.

Share this book with your friends

Use our Bookfinder to discover the perfect children's books for every age...