Adroddiad Blynyddoedd Cynnar BookTrust yn tynnu sylw at lwyddiant wrth annog teuluoedd i ddarllen
Published on: 23 Tachwedd 2023
Ym mlwyddyn gyntaf cynigion newydd Blynyddoedd Cynnar BookTrust (Bookstart Toddler / Dechrau Da 1-2 Oed a Bookstart Pre-schooler / Dechrau da 3-4 Oed), dangosodd ein hymchwil gyda’n partneriaid a theuluoedd fod y cynnig yn gweithio i danio brwdfrydedd a gwybodaeth teuluoedd am fanteision darllen a sut i rannu straeon gyda’i gilydd.
Dengys canfyddiadau allweddol o’r flwyddyn gyntaf, o ganlyniad i gynigion y Blynyddoedd Cynnar fod:
- Teuluoedd wedi dysgu rhywbeth newydd am fanteision darllen (67%) a ffyrdd gwahanol y gallen nhw rannu straeon gyda’u plant (78%), ac roedd yr effeithiau hyn yn fwy amlwg ar gyfer teuluoedd incwm is (77% ac 82% yn eu tro).
- 77% o deuluoedd wedi nodi eu bod nhw’n darllen mwy gyda’u plant, yn enwedig y rheiny fyddai’n arfer darllen llai nag unwaith yr wythnos o’r blaen.
- 88% o bartneriaid yn teimlo fod y cynigion yn eu cefnogi i ymgysylltu â rhieni a gofalwyr.
Darllenwch yr adroddiad llawn yma
Fel rhan o’r cynigion, derbyniodd teuluoedd becynnau lliwgar yn cynnwys llyfrau, pypedau bys, creonau a gweithgareddau, ynghyd â chynghorion ynghylch sut i rannu straeon a rhigymau gyda’i gilydd, drwy ein rhwydwaith o bartneriaid dosbarthu blynyddoedd cynnar. Rhannwyd adnoddau storïwr gyda phartneriaid i’w helpu i arwain teuluoedd ar eu teithiau darllen, a darparodd BookTrust ystod o gynnwys ar lein i gefnogi teuluoedd a phartneriaid.
Darparodd ein rhwydwaith gyflenwi blynyddoedd cynnar dros 6,000 o lwybrau i deuluoedd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac rydyn ni’n ddiolchgar i’n holl bartneriaid am eu gwaith o gyflenwi blwyddyn gyntaf y rhaglen, ac am rannu’u profiadau gyda ni.
Fel elusen ddarllen plant fwyaf y DU, mae BookTrust yn sefydliad addysgu ar sail ymchwil, sy’n cyrraedd at dros 1.5 miliwn o blant bob blwyddyn, gan roi llyfrau, adnoddau a chefnogaeth a gynlluniwyd i helpu i gael teuluoedd i ddarllen gyda’i gilydd, yn enwedig y rheiny o gefndiroedd incwm isel neu fregus.
Mae plant sy’n dewis darllen, ac sy’n darllen yn rheolaidd, yn ffurfio cysylltiadau cryfach, yn gwneud yn well yn yr ysgol, yn fwy creadigol, yn hapusach ac iachach. Dyma pam mai un o flaenoriaethau BookTrust yw rhannu straeon a llyfrau cyn gynted â phosib ym mywyd plentyn.
Topics: Bookstart, Research, News, Bookstart Toddler, Bookstart Pre-schooler