Cynigion Blynyddoedd Cynnar BookTrust: Canfyddiadau gwerthusiad blwyddyn un
Published on: 6 Tachwedd 2023
Crynodeb o ganfyddiadau sy’n deillio o ymchwil BookTrust gyda theuloedd a phartneriaid cyflenwi blynyddoedd cynnar
Cyflwyniad
BookTrust yw elusen ddarllen blant fwyaf y DU. Bob blwyddyn, byddwn ni’n cyrraedd dros 1.5 miliwn o blant, gan eu hysbrydoli â llyfrau, adnoddau a chefnogaeth a gynlluniwyd i helpu teuluoedd i ddechrau ar eu taith ddarllen. Byddwn ni’n darparu mwy o gefnogaeth a dargedwyd i deuluoedd incwm isel yn y blynyddoedd cynnar (rhai â phlant 0-7 oed). Gwyddom mai’r teuluoedd hyn allai elwa fwyaf o fanteision trawsnewidiol uniongyrchol a mwy hirdymor rhannu llyfrau a straeon gyda’i gilydd.
Ynglŷn â'r papur briffio hwn
Mae’r papur briffio hwn yn crynhoi gwersi a ddysgwyd o flwyddyn gyntaf cynigion Blynyddoedd Cynnar newydd BookTrust (Dechrau Da Plant Lleiaf / Dechrau Da Blwyddyn 1-2 a Dechrau Da Plant Cyn-ysgol / Dechrau Da Blwyddyn 3-4). Clywsom gan lawer o fewn ein rhwydwaith o dros 6,000 o bartneriaid cyflenwi blynyddoedd cynnar eu bod yn awyddus i weld beth a ddysgwyd ac rydym ni’n rhannu’r canfyddiadau hyn ar ddechrau’r broses o gyflawni rhaglen 2023-2024.
Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’n holl bartneriaid am eu gwaith er mwyn cyflwyno blwyddyn gyntaf y peilot ac am roi o’u hamser i rannu’u profiadau gyda ni. Rydyn ni’n teimlo cyffro o fod yn gwneud y cyfan eto gyda chi eleni!
Seilir y canfyddiadau hyn ar arolwg ar-lein o 224 o bartneriaid cyflenwi a 589 o deuluoedd, ymweliadau dysgu â lleoliadau, a chyfweliadau â phartneriaid a theuluoedd.
Am ein cynigion Blynyddoedd Cynnar
Mae BookTrust yn sefydliad sy’n dysgu, gan osod tystiolaeth, ein partneriaid a’n teuluoedd wrth galon ein gwaith o gynllunio a gwerthuso ein rhaglen. Cafodd dyluniad cynigion y Blynyddoedd Cynnar ei lywio gan ein gwybodaeth am ddarllen ar y cyd yn y blynyddoedd cynnar, tystiolaeth allanol ar newid ymddygiad a ffurfio arferion, ac addysg a phrofion helaeth gyda phartneriaid a theuluoedd.
Mesurodd gwerthusiad blwyddyn gyntaf cynigion Blynyddoedd Cynnar newydd BookTrust lwyddiant yn erbyn sawl dangosydd effaith. Canfyddiad y gwerthusiad yw bod y cynnig yn gweithio i danio brwdfrydedd a gwybodaeth teuluoedd am fanteision darllen a gwahanol ffyrdd o rannu llyfrau a straeon gyda’i gilydd.
TEXT IN BLUE DOTTED TEXT BOX ON P2
Bu i ni gyrraedd dros 425,000 o blant 1-4 oed ym mlwyddyn gyntaf y peilot.
Mae ein cynnig Blynyddoedd Cynnar yn un rhan o daith ddarllen Blynyddoedd Cynnar BookTrust ar gyfer teuluoedd. Mae’r cynnig Blynyddoedd Cynnar hwn yn cynnwys:
Dechrau Da Plant Lleiaf (Dechrau Da Blwyddyn 1-2 yng Nghymru), pecyn teulu yn cynnwys dau lyfr, pyped bys, a syniadau am weithgareddau pellach, a sut i rannu straeon a rhigymau gyda'i gilydd.
Dechrau Da Plant Cyn-ysgol (Dechrau Da Blwyddyn 3-4 yng Nghymru), pecyn teulu yn cynnwys dau lyfr, band pen i’w liwio (darperir creonau), a syniadau ar gyfer gweithgareddau pellach, a sut i rannu straeon a rhigymau gyda’i gilydd.
Adnoddau storïwr i bartneriaid (pecyn gyda 10 llyfr delfrydol i’w rhannu gyda phlant 1-4 oed, gan gynnwys y teitlau o’r pecynnau teulu)
Amrywiaeth o gynnwys ar-lein i gefnogi partneriaid a theuluoedd i rannu straeon.
Mae ein cynnig Blynyddoedd Cynnar yn rhaglen a dargedir, a ddyluniwyd gyda ffocws penodol ar gefnogi teuluoedd incwm isel. Byddwn ni’n gweithio’n agos gyda’n partneriaid darparu i amlygu teuluoedd a fyddai’n elwa fwyaf o’r rhaglen neu a allai fod angen mwy o help i wneud darllen ar y cyd yn rhan reolaidd o’u bywydau.
Drwy gymryd rhan weithredol yn ein rhaglen Blynyddoedd Cynnar, rydych yn rhan o rwydwaith anhygoel o dros 6,000 o bartneriaid cyflenwi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sydd wedi helpu mwy na 425,000 o blant 1-4 oed i brofi manteision darllen ar y cyd cynnar. Mae o leiaf 70% o'r plant hyn o deuluoedd incwm isel, a fydd yn elwa fwyaf o'ch cymorth.
FOOTNOTES ON P2
Mae gan becynnau Storïwr yng Nghymru 10 llyfr ac mae gan y rhai yn Lloegr a Gogledd Iwerddon 11.
Byddwn ni’n defnyddio’r term ‘incwm isel’ i ddynodi’r rhai sy’n byw mewn tlodi cymharol fel y’i diffinnir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Beth ydyn ni wedi’i ddysgu o flwyddyn gyntaf y cynnig?
Mae plant yn dysgu rhywbeth newydd o'r pecynnau.
Dywedodd 85% o deuluoedd fod eu plentyn wedi dysgu rhywbeth newydd am y byd o'u cwmpas o'r pecyn. Clywsom gan deuluoedd sut roedd y pecynnau wedi ysgogi plant i archwilio, datblygu sgiliau echddygol manwl, a dysgu geiriau a rhigymau newydd.
Roedd teuluoedd incwm is yn fwy tebygol o ddweud eu bod nhw wedi dysgu rhywbeth newydd o’r pecyn, naill ai am fanteision darllen (77%, o’i gymharu â 67% o deuluoedd yn gyffredinol) neu wahanol ffyrdd y gallen nhw rannu straeon gyda’u plant (82%, yn erbyn 78% o deuluoedd yn gyffredinol).
“Mae’r pecynnau’n syniad hyfryd. Mae fy mab yn eu caru ac mae’n fy ysbrydoli i ddod o hyd i ragor o amser i archwilio straeon yn hytrach na mynd drwyddyn nhw’n gyflym ar gyfer amser gwely.” Teulu incwm isel sy’n derbyn pecyn Dechrau Da Plant Cyn-ysgol, Lloegr
Ailadrodd, ailadrodd, ailadrodd!
Po fwyaf o deuluoedd oedd wedi defnyddio pob llyfr, y mwyaf tebygol oedden nhw o ddweud bod eu plentyn wedi dysgu rhywbeth newydd am y byd o’u cwmpas.
Mae ailadrodd yn rhan hanfodol o ddatblygu arferiad darllen ac adeiladu sgiliau yn y blynyddoedd cynnar. Mae’n gadarnhaol gweld bod cyfran uchel o deuluoedd yn defnyddio cynnwys y pecyn sawl gwaith.
“Rydyn ni'n caru'r llyfrau. Mae fy merch eisoes wedi cofio Un Banana, Dau Fanana! Diolch!" Teulu sy’n derbyn pecyn Dechrau Da Plant Cyn-ysgol, Lloegr
Mae'r pecynnau'n cefnogi teuluoedd i ddarllen mwy.
Yn gyffredinol, dywedodd 77% o deuluoedd fod y pecynnau wedi’u hysgogi i ddarllen a rhannu straeon yn fwy gyda'u plant. Roedd y newid mewn amlder darllen yn arbennig o amlwg mewn teuluoedd a oedd yn darllen llai na diwrnod yr wythnos cyn iddyn nhw dderbyn eu pecyn (dywedodd 95% fod y pecyn wedi eu hysgogi i ddarllen mwy) ac ar gyfer teuluoedd incwm isel (84%, o gymharu â 74% o deuluoedd incwm uwch).
“Mae'r pecyn yn wych i gael plant i ddarllen gyda rhieni. Mwynheais y llyfrau, na fyddwn i ddim wedi eu darllen i fy merch fel arall.” Teulu sy’n derbyn pecyn Dechrau Da Plant Lleiaf, Lloegr
Mae'r pecynnau'n cefnogi teuluoedd i barhau â'u teithiau darllen.
Mae ein pecynnau Dechrau Da yn cynnwys gwybodaeth am sut y gall teuluoedd ddod o hyd i'w llyfrgell leol. Dywedodd dwy ran o dair o deuluoedd fod yr wybodaeth hon wedi’u hysgogi nid yn unig i ddod o hyd i'w llyfrgell agosaf, ond hefyd i ymweld â hi (66%). Efallai eu bod wedi ymweld ag un o’r 2,400 o lyfrgelloedd ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sy’n cymryd rhan yn Amser Stori BookTrust neu Amser Stori BookTrust Cymru, ein harlwy blynyddoedd cynnar a leolir yn y llyfrgell! Gallwch ddarllen mwy am Amser Stori BookTrust yn ein hadroddiad gwerthuso diweddaraf, yma.
“Pecyn ardderchog wedi dod oddi wrth y feithrinfa. Mae fy mab wrth ei fodd yn darllen ac roedd yn llawn cyffro gyda'r holl weithgareddau a'r llyfrau hyfryd. Ar ôl darllen y pecyn hwn gofynnodd fy mab am gael ymuno â'r llyfrgell ac mae'n teimlo'n arbennig iawn gyda'i gerdyn llyfrgell ei hun. Menter ardderchog.” Teulu incwm isel sy’n derbyn pecyn Dechrau Da Plant Cyn-ysgol, Lloegr
Mae ein partneriaid yn chwarae rhan hanfodol yn nheithiau darllen ar y cyd cynnar teuluoedd.
Roedd teuluoedd a oedd yn cofio gweld adnoddau Storïwr (y rhai a gynlluniwyd i’w defnyddio gan ymarferwyr) neu eu pecyn teulu yn cael ei ddangos iddynt neu’ cael ei sôn amdano gan ymarferwr yn fwy tebygol o:
Ddysgu rhywbeth newydd am fanteision darllen (88% v. 71% o’r rhai na chafodd brofiad o hyn pan gawsant eu pecyn).
Dysgu rhywbeth newydd am y gwahanol ffyrdd o ddarllen neu rannu straeon gyda'u plentyn (88% v. 77%).
Darllen a rhannu straeon yn fwy gyda'u plentyn (90% v. 75%).
Mae hyn yn wych gweld, a bydd deall y gwahanol ffyrdd y mae ein partneriaid blynyddoedd cynnar yn esbonio’r pecynnau i deuluoedd, yn eu hannog a gwneud iddyn nhw deimlo’n gyffyrddus, ac yn eu cyffroi wrth ddarllen, yn ffocws dysgu allweddol i BookTrust eleni.
“Roedd hi’n wych cael gweld sut y defnyddiwyd y llyfr, a bod mewn amgylchedd dysgu gyda rhieni eraill.” Teulu sy’n derbyn pecyn Dechrau Da Plant Lleiaf, Lloegr
Mae'r pecynnau'n helpu partneriaid i feithrin perthynas â theuluoedd.
Cynlluniwyd ein cynnig Blynyddoedd Cynnar i gefnogi partneriaid a theuluoedd i sefydlu arferion darllen ar y cyd o oedran ifanc. Mae’n wych gweld y canlyniadau cynnar yn awgrymu bod y cynnig yn gwneud yn union hynny. Rhan allweddol o hyn oedd sicrhau bod yr adnoddau’n helpu partneriaid i ymgysylltu â theuluoedd a dywedodd 9 o bob 10 partner fod y pecynnau’n eu cefnogi i wneud hyn (88%).
Bydd rhai o’n partneriaid yn gweithio gyda theuluoedd bregus iawn a chlywsom ar sawl achlysur sut mae ein pecynnau’n cefnogi partneriaid i feithrin perthynas â theuluoedd. Er enghraifft, mae partneriaid wedi defnyddio'r pecynnau fel anrheg neu ffordd anfygythiol o wneud cyswllt cychwynnol â theuluoedd, neu i'w helpu i agor a ffurfio rhwymyn emosiynol ag ymarferwyr. Mae hyn hefyd yn rhywbeth a glywsom gan ein partneriaid dros nifer o flynyddoedd, er enghraifft gan Ymwelwyr Iechyd sy’n darparu ein rhaglen Dechrau Da Babi i bob plentyn 0-12 mis oed yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn.
“Bydd yr adnoddau hyn yn sicrhau y gallwn ni gynnig ffordd newydd o ymgysylltu â theuluoedd... ffordd i mewn pan fyddwch chi'n delio â phethau eraill sy'n achosi straen.” Cydlynydd Grymuso Teuluoedd, Canolfan y Merched
Beth nesaf ar gyfer ein cynigion Blynyddoedd Cynnar?
Diolch i’r holl deuluoedd a phartneriaid a gymerodd ran ym mlwyddyn gyntaf Dechrau Da Plant Lleiaf / Dechrau Da Blwyddyn 1-2 a Dechrau Da Plant Cyn-ysgol / Dechrau Da Blwyddyn 3-4, ac i’r rhai a roddodd o’u hamser i rannu eu profiadau gyda ni. Rydyn ni’n ystyried yr holl adborth a’r mewnwelediadau a gyflwynwyd er mwyn gallu esblygu’r rhaglen hon a’n taith ddarllen blynyddoedd cynnar yn ei chyfanrwydd.
Ein blaenoriaethau dysgu allweddol ar gyfer 23-24 yw:
Deall sut y gallwn wella'r wybodaeth, y gefnogaeth a'r adnoddau a ddarparwn i'n partneriaid gwerthfawr. Rydyn ni’n gwybod bod hon yn ffordd newydd o weithio i lawer o’n partneriaid ac rydyn ni’n parhau i fuddsoddi yn ein cefnogaeth i chi er mwyn gwneud darparu’n haws ac yn fwy effeithiol. Yn seiliedig ar eich adborth, bu i ni lansio ein Canllaw Adnoddau Partner newydd yn ddiweddar i gefnogi partneriaid i gyflwyno’r rhaglen.
Deall sut mae ein gwahanol gynigion blynyddoedd cynnar yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau'r effaith fwyaf posibl i deuluoedd.
Deall sut mae profiadau teuluoedd wrth iddyn nhw dderbyn pecynnau Dechrau Da, a sut mae’r rhyngweithio a gânt â’n partneriaid darparu, yn llywio eu hymgysylltiad cychwynnol a pharhaus â darllen.
Parhau i fesur effaith cynigion BookTrust, gan gynnwys dechrau mesur newidiadau yn ymddygiad darllen teuluoedd dros amser.
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol @BookTrust
Topics: BookTrust Storytime