Mae Fory'n Ddiwrnod Newydd Sbon / Tomorrow Is A Brand New Day

Publisher: Rily

Llyfr perffaith ar gyfer helpu plant ifanc i ddeall a thrafod eu hemosiynau. Mae lluniau trawiadol a lliwgar yn dod â hiwmor i’r testun ac mae’r odl yn ychwanegu at y naws ysgafn. Gwir hyfrydwch y testun yw ei fod yn dangos empathi i’r darllenydd ifanc, does dim dweud y drefn yma. Mae’r awdur yn cysylltu gyda’r darllenydd trwy ddangos dealltwriaeth bod pawb yn cael dyddiau anodd. Prif neges y stori yw bod wastad cyfle i wneud yn iawn am yr hyn sydd wedi digwydd, ac mae sôn am y gwahanol ffyrdd o wneud hyn yn sbardun pwysig am drafodaethau gyda phlant sydd eisiau ymddiheuro ond ddim yn gwybod sut.


 

The perfect book to help young children understand and discuss their emotions. Striking and colourful illustrations bring humour to the text and rhyme adds a light feeling. The real beauty of the text is that it shows empathy with the young reader; there’s no telling off here. The author connects with the reader by showing an understanding that everybody has difficult days. The main message of the story is that there is always an opportunity to make amends for what has happened, and talking about the different means of doing this is an important way to stimulate a discussion with children who want to apologise but don’t know how.

Share this book with your friends

Use our Bookfinder to discover the perfect children's books for every age...