Infertebratau Brwd!

Publisher: Graffeg

Dyma lyfr ffeithiol sydd yn dathlu rhyfeddod infertebratau o bob math. Yn wahanol i lyfrau ffeithiol mwy traddodiadol, yma, mae’r ffeithiau am yr infertebratau yn cael eu trosglwyddo drwy benillion bach sydd yn cynnwys mydr ac odl. Mae cytgan syml sy’n cael ei ail-ymweld drwy’r llyfr yn wahoddiad clir i blant ymuno a darllen y testun ar goedd. Trwy gyfres o ddarluniau llawn manylion, caiff darllenwyr eu tywys o le i le er mwyn tynnu eu sylw at yr infertebratau anhygoel sydd yn y byd o'u cwmpas. Mae’n llyfr ffaith sy’n addysgu, yn diddanu ac yn agor llygaid plant i ryfeddod byd natur.

Dyma lyfr bydd yn tanio diddordeb ar draws y cwricwlwm ond yn enwedig ym meysydd: Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iechyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.


This non-fiction book celebrates the wonder of all sorts of invertebrates. Unlike more traditional non-fiction  books, the facts here about invertebrates are conveyed through small verses that include metre and rhyme. The simple chorus that is revisited throughout the book is a clear invitation for children to join in with reading the text aloud. Through a series of detailed illustrations, the reader is guided from place to place in order to draw their attention to the amazing invertebrates that are in the world around us. It’s a non-fiction book that educates, entertains and opens the eyes of children to the wonder of nature.

This is a book that will stimulate interest across the curriculum but especially in the areas of: Science and Technology, Health and Well-being, Humanities, Languages, Literacy and Communication.

 

Share this book with your friends

Use our Bookfinder to discover the perfect children's books for every age...