English Cymraeg

We Can! - Make a Difference

gan Alexandra Strick, darluniau gan Steve Antony

Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 5+

Cyhoeddwr Otter-Barry Books, 2024

  • Picture books
  • Disability
  • Mobility/wheelchair
  • Visual impairment

Am y llyfr hwn

Pa fath o fyd y mae plant eu hunain eisiau byw ynddo? A allwn ni ddod ynghyd i greu byd mwy caredig, gwell a gwyrddach? Y syniad y tu ôl i’r llyfr lluniau hwn yw gallwn, Mi Allwn! Mae’n llyfr gobeithiol iawn ac fe’i crëwyd gyda phlant go iawn, gan gynnwys plant anabl, i wneud yn siŵr eu bod nhw’n teimlo wedi’u cynrychioli.  

Hanes 15 o blant sy’n cynllunio gŵyl We Can anhygoel yw hwn, ac mae’n llawn awgrymiadau a chynlluniau gwych ar gyfer sut i wneud y byd yn well. Mae’r manylion yn lluniau Steve Antony wedi’u seilio ar gyngor a cheisiadau’r plant, gan gynnwys defnyddiwr cadair olwyn ar siglen.

Y canlyniad yw llyfr lluniau hyfryd sy’n wirioneddol gynhwysol. Byddai’n llyfr gwych i’w ddarllen gyda’ch gilydd a’i drafod mewn dosbarth meithrin, derbyn neu Flwyddyn Un yn ogystal â gartref, a gall fod yn sbardun ardderchog ar gyfer trafodaeth o’r hyn y mae plant sy’n ei ddarllen yn ei feddwl a beth yw eu syniadau.  

Fel yr esbonnir yng nghefn y llyfr, roedd y broses o ysgrifennu a darlunio We Can! yn cynnwys mewnbwn sylweddol gan lysgenhadon cynhwysiant, gan gynnwys plant, i wirio cywirdeb ac i sicrhau dilysrwydd drwy’r llyfr cyfan. 

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn