English Cymraeg

The Guinea-Pig Party

gan Holly Webb, darluniau gan Rosie Butcher

Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 6+

Cyhoeddwr Barrington Stoke, 2025

  • Chapter books
  • Dyslexia

Am y llyfr hwn

Mae Katy wedi bod eisiau anifail anwes ei hun erioed, felly pan ddaw mochyn cwta del i snwffian yn ei gardd, mae wrth ei bodd. 

Mae Lettuce - fel y mae Katy yn ei henwi - wrth ei bodd yn bwyta’r letys a’r moron y mae Katy yn eu bwydo iddi. Mae hyd yn oed yn hoffi nythu ar lin Katy i gael mwythau. Mae Katy yn penderfynu ei chadw ac yn creu cartref cudd iddi yn yr hen dŷ gwydr. Ond pan fydd merch newydd yn yr ysgol yn datgelu ei bod wedi colli mochyn cwta, mae gan Katy benderfyniad anodd i’w wneud. 

Mae hon yn stori addfwyn, wedi’i hadrodd mewn penodau byr â lluniau lliw hyfryd iawn, a bydd yn apelio’n fawr i ddarllenwyr newydd, yn enwedig y rhai sy’n hoff o anifeiliaid. Ceir thema gynnil o wneud y peth iawn hefyd, sy’n ychwanegu dyfnder. 

Mae’r testun wedi’i ddylunio â llawer o le o’i gwmpas, i gynorthwyo dechreuwyr a darllenwyr dyslecsig. Mae hwn yn ychwanegiad hyfryd arall at y gyfres Little Gems, sy’n gyflwyniad da i lyfrau penodau.  

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn