English Cymraeg

Guardians of the New Moon: Ming and Miaow’s Great Race

gan Eric Huang, darluniau gan Phùng Nguyên Quang

Oedran diddordeb: 7 i 9
Oedran darllen: 7+

Cyhoeddwr Little Tiger

  • Adventure
  • Around the world
  • Chapter books

Am y llyfr hwn

Mae’r ymerawdwr Jade yn ochneidio ar ei orsedd, wedi diflasu â natur ragweladwy'r byd y mae wedi ei greu. Mae’n ysu am gyffro. Yna, mae’n sylwi ar Miaow y gath yn rhedeg ar ôl llygoden fawr ac mae syniad yn ei daro: dylai drefnu ras fawr rhwng yr holl anifeiliaid ar y Ddaear! Y wobr? Bydd blwyddyn leuadol yn cael ei henwi er clod i bob un o’r 12 cyflymaf.

Ni all Miaow wrthod atyniad y gystadleuaeth hon. Wrth iddo gychwyn ei daith, mae’n cyfarfod Ming danbaid a mympwyol, llwynog elfennol naw cynffon sy’n gallu troi’n ferch ddynol. Mae Ming a Miaow yn datblygu cyfeillgarwch agos a gyda’i gilydd yn brwydro i aros yn y ras wrth iddyn nhw deithio ar draws dirlun hudolus.  

Cyflwynir y darllenwyr i lu o greaduriaid chwedlonol, duwiau a lleoliadau arallfydol o lên gwerin Tsieina yn y llyfr cyffrous hwn. Mae Ming a Miaow yn ffurfio tîm gwych ac yn gweithio gyda’i gilydd i oresgyn tymer Ming, sydd weithiau allan o reolaeth.  

Mae’r stori’n datblygu’n gyflym â phenodau byr, digonedd o ddigwyddiadau a hiwmor ysgafn i gadw plant wedi’u difyrru. Ceir llawer o luniau drwy’r llyfr, sy’n dod ag elfennau o lên gwerin Tsieina yn fyw i’r darllenydd.  

Mae’r stori gyntaf hon yn cloi trwy gyflwyno’r nesaf wrth i Ming a Miaow ddod yn Warcheidwaid y Lleuad Newydd - yn gyfrifol am reoli pob anifail wrth iddynt weinyddu eu blwyddyn leuadol.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn