book cover
English Cymraeg

Wild

by Ele Fountain

Interest age: 12+
Reading age: 10+

Published by Pushkin Children’s Books, 2023

  • Adventure
  • Around the world
  • Chapter books
  • Travel
  • Behavioural/emotional/social
  • Disability

About this book

Pan mae ei dad yn marw, mae Jack sydd yn ei arddegau wedi’i lorio’n llwyr. Wrth fethu mynd i’r afael â’i alar, mae Jack yn colli rheolaeth.

Pan mae ei fam yn awgrymu eu bod yn mynd am seibiant dramor, mae Jack yn wallgof pan mae’n sylweddoli ei bod wedi’i lusgo ar siwrnai gwaith i Dde America, yn teithio i’r fforestydd glaw yn chwilio am lwyth brodorol sydd mewn perygl oherwydd coedwyr anghyfreithlon yn yr ardal. Eto, pan mae Mam yn diflannu, mae Jack wedi’i barlysu gan ofn ei fod wedi’i cholli hi hefyd.

Mae emosiynau Jack yn cael eu portreadu’n bwerus yn yr hanes amlhaen hwn, sydd wedi’i ysgrifennu’n gelfydd a llawn calon. Mae’r nofel hefyd yn tynnu sylw at effeithiau dinistriol datgoedwigo.

Share this page Twitter Facebook LinkedIn