Wild Magic: Legend of the Black Lion
gan Abiola Bello, darluniau gan Emma McCann
Oedran diddordeb: 6+
Oedran darllen: 6+
Cyhoeddwr Simon & Schuster Children's Books
Am y llyfr hwn
Mae gan yr efeilliaid Misha a Ziggy uwch-bwerau cyfrinachol! Mae Misha yn gallu siarad ag anifeiliaid ac mae Ziggy yn gallu newid siâp i droi’n anifeiliaid.
Pan fydd eu tad, cyflwynydd rhaglenni bywyd gwyllt ar y teledu, yn mynd a nhw i Ethiopia gydag e, maen nhw mor gynhyrfus. Efallai y byddan nhw’n gweld llew du! Ond pan fyddan nhw’n darganfod bod potswyr ar ôl y llew, yn sydyn mae pwerau’r efeilliaid yn eu rhoi nhw mewn perygl mawr. A allan nhw gadw’r anifeiliaid - a’u hunain - yn ddiogel?
Mae bron i bob plentyn wedi bod eisiau siarad ag anifeiliaid neu fod yn un ar ryw adeg, felly mae union gysyniad y gyfres hon yn arbennig o ddeniadol. Mae’r efeilliaid yn defnyddio eu pwerau i helpu’r anifeiliaid, wrth gwrs, a cheir perygl go iawn i Ziggy pan fydd ar ffurf anifail, sy’n ychwanegu at y tensiwn.
Mae lluniau ardderchog Emma McCann yn rhoi teimlad hygyrch a chyfeillgar i’r llyfr, ac mae tudalennau â ffeithiau yn y cefn am lewod du ac am Ethiopia yn fonws ychwanegol.
Mae Dad yn esiampl wych - yn weithiwr caled ac yn ofalgar - ac mae’n hyfryd gweld teulu Du cyfoes â thad sengl yn cael ei gynrychioli. Perffaith i’r rhai sy’n caru anifeiliaid a’r rhai sy’n hoff o bwerau hudol.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Yomi and the Fury of Ninki Nanka
5 i 9 years
-
Secret Beast Club: The Unicorns of Silver Street
5 i 9 years
-
Megs
5 i 9 years
-
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: ar gyfer plant 6 i 7 oed
Y llyfrau gorau o 2024–25 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 6–7 oed