English Cymraeg

The Café at the Edge of the Woods

gan Mikey Please

Oedran diddordeb: 5 i 6

Cyhoeddwr HarperCollins, 2024

  • Picture books

Am y llyfr hwn

Glanhawr ffenestri yw Rene, sy’n breuddwydio am goginio a gweini’r bwyd gorau. Fodd bynnag, pan fydd yn cynilo digon i adeiladu ei chaffi eu hun ar ymyl y goedwig, yr unig weinydd y mae’n gallu dod o hyd iddo yw’r creadur gwyrdd, rhyfedd braidd o’r enw Glumfoot ac mae ei hunig gwsmer yn gawr canibalaidd.

Mae Rene yn ystyried rhoi’r gorau iddi; mae’r cawr yn mynnu cael ystlumod, gwlithod, a chynrhon tra ei bod hi eisiau gweini’r cloron y moch cyfoethocaf a thartennau caws Cheddar. Ond, trwy wneud i’w bwyd cain edrych fel malwod afiach a llygod, mae ei bwyd yn llwyddiant mawr ac mae’r caffi’n datblygu’n gyflym i fod yn fan ffyniannus i holl drigolion chwedlonol y goedwig. 

Mae hwn yn llyfr lluniau sy’n odli arloesol ac yn un sy’n llawn personoliaeth. Bydd llawer o nodweddion y stori yn apelio i ddarllenwyr ifanc, gan gynnwys bwyd afiach, creaduriaid hudolus, a hiwmor slapstic. Mae’r lluniau yn sefyll allan â’u manylion cywrain, eu palet lliwiau cynnil, a’u hedrychiadau llawn cymeriad. 

Ceir digonedd yma i ddarllenwyr ifanc ei ddarganfod, gan gynnwys creaduriaid y gellid eu hadnabod o straeon eraill. Byddai’r llyfr hwn yn gweithio’n dda fel ysbrydoliaeth ar gyfer gweithgareddau coginio difyr gyda phlant, yn enwedig yr elfen greadigol o guddio bwyd blasus fel cinio cawr afiach! A allech chi dwyllo ellyll i fwyta ei lysiau?

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn