English Cymraeg

Ble Wyt Ti, Bwci Bo? / Where are you, Bwci Bo?

gan Joanna Davies, darluniau gan Steven Goldstone

Oedran diddordeb: 4 i 5

Cyhoeddwr Atebol Cyfyngedig, 2023

  • Around the world
  • Picture books
  • Poetry and rhyme
  • Bilingual

Am y llyfr hwn

Ymunwch â’r Bwci Bos, y bwystfilod bach, wrth iddyn nhw archwilio’r byd. Mae un bwystfil wrth ei fodd yn y goedwig, un arall yn dwlu ar y cefnfor, ac wrth i fwystfilod ganu clodydd yr anialwch, y fforest law, yr Arctig a hyd yn oed y gofod, mae llawer i’w ddarganfod yn y llyfr hyfryd hwn. Pa le yw’r gorau yn eich barn chi?

Mae’r testun yn odli yn Gymraeg a Saesneg, sy’n hynod o glyfar, ac yn hwyl yn y ddwy iaith. Mae gweithgareddau ychwanegol y gall y plentyn eu cyflawni drwyddi draw, fel cyfri mes y wiwer, dilyn y llwybr at y werddon, ac ymuno â synau’r bwystfilod. Bydd plant bach wrth eu bodd yn ymuno fel hyn. Mae’r lliwiau llachar yn apelgar a deniadol iawn, ac mae gan bob cynefin ei anifeiliaid ei hunan i’w darganfod, gan beri ei bod hi’n bosib cael sgwrs am lawer o bethau ar bob tudalen. Mae’n rhan o gyfres hyfryd, hwyliog y bydd y plant lleiaf wrth eu bodd â hi.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn