Sut Wyt Ti, Bwci Bo? / How Are You, Bwci Bo?
gan Joanna Davies, darluniau gan Steven Goldstone
Oedran diddordeb: 4 i 5
Cyhoeddwr Atebol Cyfyngedig, 2022
Am y llyfr hwn
Mae teimladau'n bethau anodd i'w deall a'u hesbonio, yn enwedig pan rydych chi'n blentyn, ond bydd y llyfr hwn yn sicr yn rhoi plant ar ben ffordd.
Trwy ddefnyddio cymeriadau'r Bwci Bos mae'r llyfr yn cyflwyno enwau, delweddau a geiriau sy'n gysylltiedig â'r gwahanol emosiynau. Mae darluniad trawiadol a phwrpasol y Bwci Bos yn sicrhau bod yr emosiynau'n amlwg i'r darllenydd hyd yn oed heb y geiriau.
Yn ogystal, mae'r ychwanegiadau bach llawn hiwmor, fel thermomedr y Bwci Bo blin, yn sicrhau bod pwnc a allai fod yn gymhleth i blant yn dod yn destun llyfr llawn hiwmor a hwyl.
Dyma destun bydd yn tanio gwaith ar draws y cwricwlwm ond yn enwedig ym meysydd: Iechyd a Lles a Chelfyddydau Mynegiannol.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Rhewyn a’r Côrachod
gan Catrin Angharad Jones, darluniau gan Sian Angharad
4 i 7 years
-
Beth yw'r Amser, Bwci Bo? / What's the time, Bwci Bo?
gan Joanna Davies, darluniau gan Steven Goldstone
2 i 7 years
-
Dylan’s Park
by Dylan Thomas; edited by Helen Docherty
4 i 7 years
-
The Secret World of Seahorses
gan Nicola Davies, darluniau gan Lou Baker-Smith
4 i 7 years