Guto a Dreigiau'r Nos
gan Caryl Lewis, darluniau gan Carmen Saldaña
Oedran diddordeb: 4 i 5
Cyhoeddwr Lolfa, 2023
Am y llyfr hwn
Dyma lyfr sydd yn arwain plant trwy’r broses o wneud ffrindiau newydd gan ddefnyddio hud a lledrith i hwyluso’r ffordd. Yn y stori hon mae’r awdur yn defnyddio cyfeillgarwch y prif gymeriad gyda dreigiau i helpu’r darllenydd i ddeall bod dim angen newid pwy wyt ti er mwyn gwneud ffrindiau newydd. Mae Guto’n sylweddoli yn gyflym, nad pawb sydd yn gallu gweld ei ffrindiau arbennig, sef y dreigiau, ond mae’n gwrthod gwadu bodolaeth ei ffrindiau hudol er mwyn bod yr un peth a phawb arall. Caiff ei ddewrder ei wobrwyo wrth iddo ddod o hyd i ffrind go iawn sydd wrth ei bodd yn chwarae gyda fe a’i ddreigiau. Llyfr hudol ar fwy nag un lefel.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Cyfri Defaid
3 i 7 years
-
The Tour at School
2 i 7 years
-
Ant Party
3 i 7 years
-
We Can! - Make a Difference
4 i 7 years