Solving Crimes is NOT My Superpower
gan Nathanael Lessore, darluniau gan Simran Diamond Singh
Oedran diddordeb: 9 i 11
Oedran darllen: 7+
Cyhoeddwr Little Tiger
Am y llyfr hwn
Mae gan bawb yn nhref Sara uwch-bŵer, heblaw amdani hi.
Gall rhai pobl wneud i wartheg gwympo. Gall rhai ddyrchafu gwiwerod i’r awyr. Mae ei rhieni yn eithriadol o gryf ac yn gallu rheoli’r gwynt. Ond nid oes gan Sara bŵer eto (a allai fod yn ddweud jôcs arbennig o ddoniol?)
Felly pan fydd tlws pêl-droed yr ysgol yn cael ei ddwyn, mae’n rhaid i Sara ddal y lleidr gan ddefnyddio ei phwerau dod i gasgliadau yn unig. Mae hi a'i dau ffrind Javier a Georgie yn ymchwilio - ac yn datgelu rhai o gyfrinachau’r dref ar y ffordd. (A gwyliwch faer yn rhechan lliwiau...) Ond a wnaiff Sara fyth ddarganfod ei huwch-bŵer cudd?
Doniol a gwresog, â deialog gwych, mae hwn yn hawdd ei ddarllen ac yn llawn ffraethineb. Bydd darllenwyr ifanc yn chwerthin yn uchel wrth iddyn nhw rasio drwyddo, yn awyddus i ddatrys y dirgelwch. Mae Nathanael Lessore wedi ysgrifennu ar gyfer pobl yn eu harddegau o’r blaen, ac mae’n profi yma y gall ysgrifennu’n rhugl ar gyfer plant iau hefyd.
Dyma’r cyntaf mewn cyfres newydd ddoniol iawn, yn cynnwys lluniau a sgribliadau llawn egni gan Simran Diamond Singh drwy’r llyfr cyfan.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
The Misadventures of Mina Mahmood: School Trip!
9 i 14 years
-
Unfairies
5 i 11 years
-
Cold Turkey
9 i 14 years
-
People Like Stars
9 i 14 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: Ar gyfer plant 8 i 9 oed
Y llyfrau gorau o 2025-6 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 8-9 oed.